Ymdrin llawer o'r cerddi â thestunau crefyddol megis edifeirwch, angau, a thragwyddoldeb. Canodd gerddi beiblaidd ar ‘ Anedigaeth Crist a'i Wrthiau ,’ ‘ Cofia gadw yn sanctaidd y Dydd Sabbath ,’ ‘ Ymddiddan rhwng Abab a Jezebel ,’ a ‘ Dameg y gwr a syrthiodd ymysg lladron .’ Yn ei gerddi moesol goganai yn erbyn cybydd-dod, meddwdod, ariangarwch, cenfigen, a thorri'r Saboth. Brithir ei weithiau â cherddi serch, cerddi yn ymdrin â helyntion ei oes megis ‘ Cwynfan Teyrnas Loegr ar Drigolion America ,’ marwnadau, a cherddi yn erbyn tlodi a gorthrwm. Cyfansoddodd hefyd nifer o anterliwtiau megis ‘ Histori'r Geiniogwerth Synnwyr ,’ ‘ Capten Factor ,’ ac ‘ Ymddiddan rhwng Protestant a Neillduwr .’
Yn 1759 golygodd Dewisol Ganiadau yr oes hon , yn cynnwys gwaith William Wynn ( Llangynhafal ) , Goronwy Owen , ‘ Ieuan Brydydd Hir ,’ ac eraill, a gwaith amryw o feirdd nas cyhoeddwyd o'r blaen, eiddo Huw Jones yn eu plith; cafwyd pum argraffiad rhwng 1759 a 1827 . Yn 1763 ymddangosodd gwaith arall dan olygiaeth Huw Jones , Diddanwch Teuluaidd ; yn hwn ceir cerddi beirdd Môn — Goronwy Owen , Lewis Morris , Hugh Hughes , ac eraill. Argraffwyd ef yn Llundain , cafwyd ail argraffiad yn 1817 ( Caernarfon ), a 3ydd yn 1879 ( Lerpwl ).
Cyflawnodd Huw Jones waith mawr fel gwerthwr a golygydd llyfrau . Cerddai farchnadoedd a ffeiriau'r wlad yn gwerthu baledi a chwarae rhan mewn anterliwtiau . Nid oes fawr ddim teilyngdod barddonol yng ngherddi Huw Jones . Serch hynny, bu ei lafur llenyddol yn gymorth nid bychan i ennyn a chadw diddordeb gwerin gwlad yn y Gymraeg .
Y Parch. Ernest Edward Wynne, ( -1981), Adwy'r Clawdd / Coedpoeth, Wrecsam.