JONES, WILLIAM JENKYN (1852 - 1925), cenhadwr dros y Methodistiaid Calfinaidd yn Llydaw

Enw: William Jenkyn Jones
Dyddiad geni: 1852
Dyddiad marw: 1925
Priod: Fanny Jones (née Wilhelm)
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: cenhadwr dros y Methodistiaid Calfinaidd
Maes gweithgaredd: Crefydd
Awdur: Evan Lewis Evans

Ganwyd 29 Mawrth 1852 yn y Ceinewydd, Sir Aberteifi. Addysgwyd ef yng Ngholeg Normal Bangor ac yng Ngholeg y Brifysgol, Aberystwyth, a bu'n ysgolfeistr yn Ystradgynlais. Ordeiniwyd ef yn 1882 i faes y genhadaeth yn Llydaw. Bu'n llafurio am 40 mlynedd o'r ganolfan yn Quimper, prifddinas Finisterre a chanolfan hefyd i'r Pabyddion. Er ei fod yn wynebu anawsterau na ellid mo'u concro, llwyddodd i fod o ddylanwad mawr trwy rannu copïau o'r Ysgrythur a thraethodau crefyddol. Bu ei frawd, Evan Jones, yn ei gynorthwyo am gyfnod. Cyhoeddodd emyniadur yn iaith Llydaw, Telen ar Cristen. Gyda'r athro Le Braz cyfieithodd lyfr Genesis yn Llydaweg. Etholwyd ef yn aelod o'r Sociêtê Archéologique. Priododd Fanny Wilhelm. Yn 1922 rhoddwyd iddo radd M.A. Prifysgol Cymru, 'er anrhydedd.' Bu farw 10 Chwefror 1925.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.