JONES, JOHN ('Ioan Bryngwyn Bach '; 1818 - 1898), gweithiwr, serydd, ac ieithydd

Enw: John Jones
Ffugenw: Ioan Bryngwyn Bach
Dyddiad geni: 1818
Dyddiad marw: 1898
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: gweithiwr, serydd, ac ieithydd
Maes gweithgaredd: Diwydiant a Busnes; Ysgolheictod ac Ieithoedd; Gwyddoniaeth a Mathemateg; Y Gofod a Hedfan
Awdur: David Thomas

Ganwyd yn Bryngwyn Bach, Dwyran, Môn, 1818. Gwas fferm oedd i ddechrau, a llwytho llechi ym Mhorth Penrhyn oedd ei waith o 1848 ymlaen, ond astudiodd ei hoff bynciau ar hyd ei oes. Yr oedd yn serydd gwych, a gwnaeth ddau sbienddrych iddo'i hun. Galwai plant Bangor ef yn ' John Jones y Sêr.' Dysgodd ieithoedd, a meddai 26 o eiriaduron. Darllenai'r Beibl yn Gymraeg, Saesneg, Groeg, a Hebraeg gyda'i gilydd amser brecwast. Ymddiddorodd hefyd mewn cerddoriaeth, ac yr oedd yn fardd. Ymwelodd yr awdur Seisnig, Samuel Smiles, ag ef, ac ysgrifennodd ei hanes. Bu farw ym Mangor yn 1898.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.