Y Bywgraffiadur Cymreig


A  B  C  D  E  F  G  H  I  J  K  L  M  N  O  P  Q  R  S  T  U  V  W  X  Y  Z



JONES , JOHN (‘ John Jones , Gellilyfdy ’ ; g. c. 1578-83 — bu f. 1658? ), o Gelli Lyfdy ym mhlwyf Ysgeifiog , sir y Fflint , copïydd llawysgrifau .

Gofalodd y copïydd nodedig hwn y câi pob ‘ Annwyl ddarllenydd ’ a ddarllenai ei lawysgrifau ef wybod o ba dras yr oedd, gan iddo ddechrau (neu ddiweddu) llawer o'i lawysgrifau gyda manylion tebyg i'r rhai hyn (yn Pen. MS. 224 ) amdano'i hun: ‘ Sion ap Wiliam ap Sion ap Wiliam ap Sion ap Dafydd ab Ithel Vychan ap Kynrig ap Rrotbert ap Ierwerth ap Rryrid ap Ierwerth ap Madog ab Ednowain Bendew … ,’ gydag, ar brydiau, ychwanegiad fel hyn: ‘ Yr hwnn Sion ap Wiliam a elwir yn ol y Seisnigawl arfer John Jones .’ Ganed, yn ôl pob tebyg, ym Mhlas (neu Henblas) Gellilyfdy (neu Gelli Loveday ). Yr oedd ei daid yn berchen llawysgrifau; canodd Wiliam Llŷn a Wiliam Cynwal farwnadau ar ei ôl ef. Yr oedd llawysgrifau gan ei dad hefyd a chan ddau ewythr iddo. Anfonwyd John Jones (a brawd iddo) i Amwythig am gwrs o addysg — addysg yn y gyfraith efallai. Ymddengys iddo fod yn gwasnaethu mewn rhyw gylch neu'i gilydd yn 1609 yng Nghyngor y Goror , Llwydlo ; dywed Robert Williams ( Eminent Welshmen ) fod John Jones yn atwrnai erbyn hyn. Ddwy flynedd wedi hynny ceir ef yn Llundain — eithr yng ngharchar; o bosibl mai dyma'r cyntaf o'r llu tymhorau y bu raid iddo eu treulio yng ngharchar. Yn 1612 , fodd bynnag, y mae yng Nghaerdydd yn copio ‘ Llyfr Llandaf .’ Y mae yng ngharchar drachefn yn 1617 ; y tro hwn enwir y carchar, ‘ The Fleet Prison ,’ Llundain (‘ y Fflud ’ fel y geilw'r carcharor ef fwy nag unwaith). Efallai iddo orfod aros yno hyd 1626-7 , er y gwyddys iddo drosglwyddo rhai o'i diroedd yn 1619 er mwyn gallu talu rhai o ddyledion ei dad a'i ddyledion ei hunan. Yn 1625-6 dirwywyd ef £ 200 yn Llys y Seren . O hyn ymlaen, hyd ddiwedd ei oes ymron, yr oedd i mewn ac allan o'r carchar — y Fflud ran amlaf — er bod awgrymiadau iddo gael ei garcharu yn Fflint , Caer , ac efallai Llwydlo . Am fanylion ynglŷn â'i ymgyfreithio a'r cyfreithio yn ei erbyn, ei anawsterau ariannol, ei fynych apeliadau at wahanol bersonau ( Endymion Porter , y tywysog Rupert , etc.), gw. traethawd gradd Prifysgol Cymru a gyflwynodd Samuel Jones yn 1926 ; yn hwnnw (y mae copi ohono yn y Llyfrgell Genedlaethol ) ceir astudiaeth o waith John Jones a Robert Vaughan o Hengwrt [q.v.] fel copïwyr ynghyd â chopïau o ddogfennau gwreiddiol sydd yn y Llyfrgell Genedlaethol , yr Amgueddfa Brydeinig , y Public Record Office , etc.

Fel y digwyddodd, cafodd John Jones hamdden yn ystod ei wahanol garchariadau i wneuthur y gwaith nodedig hwnnw y coffeir ef byth er hynny o'i blegid — sef copio llawysgrifau (rhai ohonynt yn hen ac yn gandryll) a'r copïo hwnnw mewn llawysgrifen nodedig a nodweddiadol. Dechreuasai gopïo yn 1598 pan oedd yn Amwythig — gw. Pen. MS. 361 . O hynny ymlaen bu'n ddiwyd iawn; y mae dros 100 o'i lawysgrifau wedi eu cadw yn y Llyfrgell Genedlaethol , y rhan fwyaf ohonynt yng nghasgliad Hengwrt-Peniarth ; ceir esiamplau hefyd yn llyfrgell dinas Caerdydd , yr Amgueddfa Brydeinig , etc. Nid copïydd cyffredin mo John Jones . Yr oedd wedi astudio llyfrau (gan Eidalwyr , gan mwyaf) ar lawysgrifen; y mae un o'r llyfrau patrymau a wnaeth ef ei hun wedi ei gadw hyd heddiw ( Pen. MS. 307 ), cyfrol y dylid ei hastudio ochr yn ochr â Libro di M. Giovan Batiista (a gyhoeddwyd yn 1545 ), llyfr a ddefnyddiodd John Jones ar un adeg ac sydd bellach yng nghasgliad Hengwrt-Peniarth . Mabwysiadodd ddull nodedig o lythrennu; gw. traethawd Samuel Jones am enghreifftiau o'r cymeriadau llythrennol a ddefnyddid ganddo a chofier hefyd fod Siôn Dafydd Rhys ,’ Gruffydd Robert , etc., wedi defnyddio cymeriadau arbennig ychydig o'i flaen. Inc du a ddefnyddiai John Jones (gan amlaf) ar bapur gwyn (yn anffodus, rhoes weithiau ormod o elfennau sulffuraidd yn ei inc ac y mae'r rheini wedi bwyta peth o'r papur mewn rhai llawysgrifau) gan amrywio ychydig hwnt ac yma nes bod ambell i lythyren fras (cabidwl) yn edrych yn fwy o wyn nag o ddu. Rhoddai sylw arbennig i'r llythrennau cabidwl dechreuol neu addurniadau ar y diwedd — a'r rhai hyn (fel rhai o lythrennau mewn coch, gwyrdd, neu air a geir yn llawysgrifau gorau y canrifoedd cynt) sydd yn rhoddi pwysigrwydd artistig i waith y copïydd . Y mae cannoedd o'r llythrennau cabidwl nodedig hyn (ac o'r addurniadau eraill) yn ei lawysgrifau; y mae'r dylanwad Eidalaidd yn drwm arnynt, serch na ddylid anghofio bod rhai ohonynt wedi eu creu gan y copïydd ei hunan; y mae hefyd ddylanwad Celtig ac Ellmynig ar ei waith. Nid oes le yma i enwi'r holl lawysgrifau a gopïwyd gan John Jones , nac ychwaith i gyfeirio at eu cynnwys — yn farddoniaeth, yn rhyddiaith, ac yn eirfâu; ceir peth gwybodaeth ar hyn yng nghatalogiau J. Gwenogfryn Evans ( Hist. MSS. Comm. ). Ychydig o'r llythrennau a atgynhyrchwyd; gw. esiamplau o gasgliad Llyfrgell Caerdydd wedi eu hatgynhyrchu gan T. H. Thomas (‘ Arlunydd Penygarn ’) yn y (Cardiff) Public Library Journal , Hydref 1902 a Mawrth 1903 .

Yr oedd cysylltiad agos rhwng John Jones a Robert Vaughan , Hengwrt [q.v.] ; hynny sydd yn esbonio paham y mae cymaint o lawysgrifau John Jones wedi eu cadw yng nghasgliad Hengwrt-Peniarth . Dywedwyd i'r ddeuddyn hyn wneuthur trefniant bod llawysgrifau'r hwn a fyddai farw gyntaf i ddyfod i feddiant y llall. Prin, serch hynny, y gellid disgwyl i Robert Vaughan , a adawodd feibion ar ei ôl, wneuthur trefniant o'r fath. Y mae'n debyg i Vaughan helpu John Jones trwy dalu arian iddo o bryd i bryd, ac i'r llawysgrifau ddyfod i'w feddiant oblegid hynny. (Gw. drafftiau llythyrau yn llaw Robert Vaughan at ‘ Mrs. Jones of Kelliloveday ,’ sef gwraig John Jones , ac at ei thad hi, Peter Griffith , Caerwys , yn Pen. MS. 270 .)

Ni wyddys i sicrwydd pa bryd y bu John Jones f.; yr oedd yn fyw yn 1658 , eithr bu f. o flaen Robert Vaughan .

Ffynonellau:

  • Cyfeiriwyd eisoes yn yr erthygl at y rhan fwyaf o'r ffynonellau;
  • ceir hefyd fanylion am John Jones ymysg papurau Syr John Ballinger yn y Llyfrgell Genedlaethol.

Awdur:

Syr William Llewelyn Davies, M.A., LL.D., F.S.A. (1887-1952), Aberystwyth

Blwyddyn Cyhoeddi: 1953-54