JONES, JOHN ('Jac Glanygors'; 1766 - 1821), goganfardd

Enw: John Jones
Ffugenw: Jac Glanygors
Dyddiad geni: 1766
Dyddiad marw: 1821
Priod: Jane Jones (née Mondel)
Rhiant: Margaret Jones
Rhiant: Lawrence Jones
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: goganfardd
Maes gweithgaredd: Barddoniaeth
Awdur: David Rowland Hughes

Ganwyd 10 Tachwedd 1766, yn ffermdy Glanygors, ym mhlwyf Cerrig-y-drudion, mab Lawrence a Margaret Jones. Tybir iddo gael ei addysg yn ysgol rad Llanrwst. Treuliodd ei ieuenctid yn gweithio ar fferm ei dad. Yn y cyfnod hwn cyfansoddodd amryw o ganeuon serch, a dangosodd fedr ar ganu a'i harweiniodd i ymberffeithio yn ddiweddarach yn ei fywyd ar y math hwn o farddoniaeth. Yn 1789 aeth i Lundain, un ai fel ffoadur oddi wrth y 'pressgang' fel canlyniad ffrwgwd â'r rheithor, neu fel gyrrwr gwartheg. Bu yng ngwasanaeth rhagor nag un cwmni masnachol a gorfu arno dreulio rhai misoedd yng Nghymru oherwydd afiechyd, ond yn 1793 yr oedd yn rheolwr neu berchennog y Canterbury Arms, Southwark. Coleddai syniadau Tom Paine ar gwestiynau yn dwyn cysylltiad â hawliau dyn, a gwrthwynebai freniniaethau a rhyfel a gormes gan lywodraeth ac eglwys. Cyhoeddodd ei syniadau mewn dau bamffledyn - Seren Tan Gwmmwl , 1795, a Toriad y Dydd , 1797 - a dioddefodd beth erledigaeth o'r herwydd.

Cymerodd ran amlwg ym mywyd Cymreig Llundain ac ymaelododd â Chymdeithas y Gwyneddigion o fewn blwyddyn ar ôl iddo gyrraedd Llundain. Bu'n is-lywydd y gymdeithas ddwywaith, yn fardd iddi am bum mlynedd, ac yn ysgrifennydd bedair gwaith, ond ni fodlonai ymgymryd â'r llywyddiaeth. Ef a Thomas Roberts, Llwyn'rhudol, ac eraill a sefydlodd Gymdeithas y Cymreigyddion yn 1795, a bu ganddo ran hefyd yn ailgyfodi'r Cymmrodorion yn 1820.

Priododd yn eglwys y plwyf, Bermondsey, 23 Gorffennaf 1816, Jane Mondel o Whitehaven. Ardrethodd dafarn y ' King's Head ' yn Ludgate Street yn 1818, ac o hynny hyd ei farwolaeth yn 1821 bu ei gartref yn gyrchfan i'r Cymry. Nid oes gofnod swyddogol i'r Gwyneddigion gyfarfod yn y ' King's Head,' ac ni bu'r Cymreigyddion yno ond am dri mis. Cofir John Jones yn bennaf oherwydd ei ddychangerddi, ac erys rhai ohonynt hyd heddiw ar lafar gwlad.

Bu farw 21 Mai 1821 a chladdwyd ef yn eglwys fechan S. Gregory ger S. Paul, sydd bellach yn rhan o'r eglwys gadeiriol fawr.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC-RUU/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.