JONES, JOHN (1775 - 1834), clerigwr

Enw: John Jones
Dyddiad geni: 1775
Dyddiad marw: 1834
Rhiant: Elizabeth Jones
Rhiant: Roger Jones
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: clerigwr
Maes gweithgaredd: Crefydd
Awdur: Thomas Iorwerth Ellis

bedyddiwyd ef 28 Rhagfyr 1775, mab Roger Jones, Cefn Rug, Corwen, ac Elizabeth ei wraig. Addysgwyd ef yn ysgol Rhuthyn a Choleg Iesu, Rhydychen, lle y graddiodd yn B.A. yn 1798 ac yn M.A. yn 1802. Urddwyd ef yn ddiacon yn 1799 ac yn offeiriad yn 1800 gan yr esgob Cleaver o Fangor, ac ar yr ail achlysur pregethodd y bregeth urddo. Trwyddedwyd ef yn gurad Cyffylliog, ac yn 1802 daeth yn ficer Bangor; penodwyd ef yn ficer hynaf yn 1810. Yn 1809 gwnaethpwyd ef yn rheithor Llandudno ac yn archddiacon Meirionnydd, ac o 1819 daliodd hefyd fywiolaethau Edern yn Llŷn a Llanbedr Dyffryn Clwyd. Bu farw 13 Mai 1834, a'i gladdu yn Llanbedr; mae iddo goflechau yn yr eglwys yno ac yn eglwys Dolgellau.

Yr oedd yn un o gwmni o glerigwyr yn esgobaeth Bangor a ffurfiodd gymdeithas yn 1804 er cyhoeddi traethodau bychain, a bu'n ysgrifennydd iddi. Traddododd y darlithiau Bampton gerbron Prifysgol Rhydychen yn 1821 ar Duedd Foesol y Datblygiad Dwyfol; ac ysgrifennodd nifer o bamffledi Cymraeg ar faterion diwinyddol.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.