JONES, JOHN (1776 - 1857), gweinidog gyda'r Methodistiaid Calfinaidd

Enw: John Jones
Dyddiad geni: 1776
Dyddiad marw: 1857
Rhiant: Ellen Jones
Rhiant: John Jones
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: gweinidog gyda'r Methodistiaid Calfinaidd
Maes gweithgaredd: Crefydd
Awdur: Robert Thomas Jenkins

Ganwyd ym mis Medi 1776 yn y Tŷ Mawr, Penmorfa, Sir Gaernarfon, yn fab i John ac Ellen Jones. Cafodd ei addysg yn ysgol Botwnnog. Dechreuodd bregethu yn 1803, ac ordeiniwyd ef yn 1814; fel ' John Jones, Tremadog' y cyfeirir ato fynychaf. Ystyrid ef yn bregethwr 'tanllyd'; ceidwadol oedd ei farn, a chynhaliai ddwylo John Elias. Cyhoeddodd yn 1834 gofiant bychan i Richard Jones o'r Wern. Bu farw 30 Ionawr 1857, a chladdwyd ym Mhenmorfa.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.