Y Bywgraffiadur Cymreig


A  B  C  D  E  F  G  H  I  J  K  L  M  N  O  P  Q  R  S  T  U  V  W  X  Y  Z



JONES , JOHN (‘ Myllin ’; 1800 - 1826 ), bardd ;

g. yn y Glyniau , ger Llanfyllin . Dysgodd fod yn grydd a bu'n gweithio am ysbaid yn Lerpwl , Cafodd gefnogaeth y Parch. David Richards , Llansilin [q.v.] , a bu'n gyfeillgar â Gwallter Mechain ,’ Ieuan Glan Geirionydd ,’ ac eraill. Yn eisteddfod y Trallwng yn 1824 enillodd wobr am ei englynion ‘ Beddargraph Dic Sion Dafydd .’ Ceir enghreifftiau o'i waith yng nghylchgronau'r cyfnod. Dyma rai o'i gerddi mwyaf adnabyddus: ‘ Myfyrdodau wrth wrando Cnul ’ ac ‘ Awdl o ddiolchgarwch i Dduw am ffrwythlondeb cynhyrchiol a thymmor llwyddiannus y Cynhauaf ’ ( Yr Eurgrawn Wesleyaidd , 1825 ); ‘ Englynion Difyfyr ar Lanfyllin ’ ( Y Gwyliedydd , 1823 ); ‘ Morwynion glân Trefaldwyn ’ ( Golud yr Oes , ii, 155). Ceir ganddo hefyd gyfieithiad o ‘ Lashed to the Helm ’ gan Dibdin ac o ‘ Auld Lang Syne .’ Bu f. 9 Gorffennaf 1826 a'i gladdu yn Llanfyllin .

Ffynonellau:

  • Y Cymmrodor , x, 63;
  • Y Geninen , 1888 , 136.

Awdur:

Elwyn Evans, M.A., Aberystwyth

Blwyddyn Cyhoeddi: 1953-54