Y Bywgraffiadur Cymreig



A  B  C  D  E  F  G  H  I  J  K  L  M  N  O  P  Q  R  S  T  U  V  W  X  Y  Z



JONES, JOHN (‘Talhaiarn ’; 1810-1869), pensaer a bardd; g. 19 Ionawr 1810 yn Nhafarn yr Harp, Llanfairtalhaiarn, sir Ddinbych. Cafodd ei addysg yn ysgol y Llan ac mewn ysgolion eraill yn Rhuddlan ac Abergele, ond daeth adref i ddysgu crefft ei dad, sef asiedydd. Pan oedd yn 15 oed prentisiwyd ef gyda phensaer o'r enw Ward, a arolygai ar y pryd blas yr arglwydd Bagot, Pool Park, Rhuthyn. Yn 1830 aeth i wasanaeth T. Penson (gw. dan Penson, R. K.), arolygydd pontydd siroedd Dinbych a Maldwyn, ac yn 1843 symudodd i Lundain yn bensaer yng nghwmni Mri. Scott a Moffatt, penseiri eglwysig. Gadawodd hwy yn 1851 ac ymuno â Syr Joseph Paxton, a bu yn un o arolygwyr gwaith y Plas Grisial yn Llundain, a phlas y barwn Meyer de Rothschild gerllaw Mentone, Ffrainc. Yn 1855 danfonwyd ef i Ffrainc i arolygu adeiladwaith plas y barwn James Rothschild, ac ymhen tair blynedd dychwelodd adref i adfer ei iechyd. Dychwelodd eilwaith at ei alwedigaeth, a bu'n arolygu gwaith plas yr iarll Russell yn Battlesden Park, swydd Bedford. Oherwydd ei afiechyd, y gymalwst, penderfynodd ymneilltuo, a daeth adref i'r Harp; bu f. drwy ei law ei hun yn 1870.

Dyma restr o'i weithiau: Awdl y Greadigaeth … 1849; Eisteddfod Genhedlaethol Abertawe, 1863, Awdl er Coffadwriaeth am y diweddar Dywysog Cydweddog ‘Albert Dda’ … 1863; Gwaith Talhaiarn, y gyfrol gyntaf gan H. Williams, 1855, yr ail gan T. Piper, 1862, a'r drydedd gan W. J. Roberts, Llanrwst, 1869. Lluniodd eiriau Cymraeg ar Llywelyn, a dramatic cantata, 1864, ac ar The Bride of Neath Valley, 1867. Gwelir ei eiriau ar geinciau yn Welsh Melodies John Thomas (‘Pencerdd Gwalia’), a lluniodd eiriau hefyd ar alawon i Brinley Richards, Blockley, Owain Alaw,’ a J. D. Jones.

Llyfryddiaeth:

  • Gen., 1888, 52, 282;
  • Caneuon Talhaiarn, gyda rhagdraeth gan Anthropos, 1902;
  • Talhaiarn, Detholiad o Gerddi (gol. T. Gwynn Jones), 1932;
  • N.L.W. MS. 4501-15.

Awdur:

David Gwenallt Jones, M.A., (1899-1968), Aberystwyth

Atodiadau a chywiriadau:

JONES, JOHN (‘Talhaiarn ’: Bywg., 452) Ar 7 Hydref 1869 (nid (‘1870’) y bu f. Ychwaneger at y llyfr. Cymm. 1951, 134-6; N.L.W. MS. 16094.