JONES, JOHN ('Humilis '; 1818 - 1869), gweinidog Wesleaidd, golygydd, cyfieithydd, ac awdur

Enw: John Jones
Ffugenw: Humilis
Dyddiad geni: 1818
Dyddiad marw: 1869
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: gweinidog Wesleaidd, golygydd, cyfieithydd, ac awdur
Maes gweithgaredd: Crefydd; Llenyddiaeth ac Ysgrifennu; Barddoniaeth; Ysgolheictod ac Ieithoedd
Awdur: Ray Looker

Ganwyd yn Llantrisant, Morgannwg; dechreuodd bregethu cyn bod yn 20 oed; aeth i goleg Didsbury, a dechreuodd deithio yn 1843. Ef oedd golygydd yr Eurgrawn Wesleyaidd rhwng 1849 ac 1851. Ysgrifennodd ar amrywiol bynciau, ac ymhlith ei waith cyhoeddedig ceir cyfieithiad o lyfr W. Arthur, The Successful Businessman, 1853, Darlith ar Rwsia a'i Rhyfel, 1854, Traethawd ar Dwrci, a Hanes Bywyd Nicholas o Rwsia, 1855, Bywgraffydd Wesleyaidd, 1866, a'r Chwedleuydd, 1868. Cyhoeddwyd erthyglau ganddo yn Y Traethodydd, 1855-69. Bu farw 13 Mawrth 1869 yng Nghaerdydd.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC-RUU/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.