Y Bywgraffiadur Cymreig


A  B  C  D  E  F  G  H  I  J  K  L  M  N  O  P  Q  R  S  T  U  V  W  X  Y  Z



JONES , JOHN (‘ Idris Fychan ’; 1825 - 1887 ), crydd a thelynor .

Ganwyd yn Nolgellau . Hanoedd o deulu Ellis Roberts (‘ Eos Meirion ’), telynor tywysog Cymru . Yr oedd ei fam yn gantores dda gyda'r tannau . Crydd ydoedd wrth ei alwedigaeth. Yn 1851 aeth i fyw i Lundain , ac oddi yno i Fanceinion yn 1857 . Ystyrid ef y canwr gyda'r tannau gorau yn ei gyfnod, ac yn fardd a llenor da. Yn eisteddfod Rhuddlan , 1850 , enillodd wobr am draethawd ar ‘ Canu gyda'r Delyn ,’ ac yn eisteddfod Caerlleon , 1866 , dyfarnwyd y wobr iddo am draethawd ar ‘ Hanes a Henafiaeth Canu gyda'r Delyn ,’ a geir yn Nhrafodion Cymdeithas y Cymmrodorion , 1885 . Cafodd mewn ystorfa ail-law ym Manceinion yn 1879 delyn Bardd y Brenin ymhen hanner can mlynedd wedi iddo farw, ac arni blât pres, a'r geiriau ‘ Edward Jones Henblas Llandderfel 1765 ’ (yn Ll.G.C. yn awr). Bu f. 3 Tachwedd 1887 , a chladdwyd ef ym mynwent Ardwick .

Ffynonellau:

  • M. O. Jones , Bywgraffiaeth Cerddorion Cymreig (1890) ;
  • Nicholas Bennett , Alawon fy Ngwlad (1896) ;
  • R. Griffith , Llyfr Cerdd Dannau (1913) ;
  • J. Lloyd Williams , Y tri thelynor arloeswyr cerddorol Cymru yn y ddeunawfed ganrif (1945) .

Awdur:

Robert David Griffith, M.A., (1877-1958), Hen Golwyn

Blwyddyn Cyhoeddi: 1953-54