JONES, LEWIS (fl. 1703), Pandy, Llanuwchllyn, Sir Feirionnydd, bardd

Enw: Lewis Jones
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: bardd
Cartref: Pandy
Maes gweithgaredd: Barddoniaeth
Awdur: Ray Looker

Cadwyd tair o'i ganeuon, sef ' Ymddiddan rhwng y Cybydd a'r Trugarog,' ' Cyngor i'r Gôf o Rôs y Gwaliau,' a ' Cerdd i ŵr ifanc oedd yn glaf o gariad merch.'

Ni wyddys ei berthynas â dau fardd arall o'r un lle, sef ROBERT JONES, a ROLANT JONES (fl. 1762). Ceir baled serch o waith y cyntaf yn NLW MS 645B (34b), a cheir enghreifftiau o waith yr olaf yn NLW MS 672D (257), NLW MS 4698A (141), ac, efallai, yn Cwrtmawr MS 206B (176), NLW MS 4697A (67), NLW MS 12867D (35), a Swansea MS. 3 (13). [Gall mai llawysgrifau gan y ddau hyn a gopïodd 'Ioan Pedr' - gweler Journal of the Welsh Bibliographical Society, iv, 4, t. 167.]

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC-RUU/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.