JONES, DAVID LEWIS (1788 - 1830), gweinidog Ariaidd ac athro coleg

Enw: David Lewis Jones
Dyddiad geni: 1788
Dyddiad marw: 1830
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: gweinidog Ariaidd ac athro coleg
Maes gweithgaredd: Crefydd; Addysg
Awdur: Thomas Oswald Williams

Ganwyd 8 Ebrill 1788, yng Nglynadda, ger Llanpumsaint, Sir Gaerfyrddin. Fe'i codwyd ymhlith yr Annibynwyr ym Mhencader. Addysgwyd ef gan ' Davis Castellhywel ' ac yng Ngholeg Caerfyrddin (1807-11). Fe'i hordeiniwyd yn Llwynrhydowen, 30 Awst 1811, fel cyd-weinidog â David Davis, Castellhywel, ac agorodd ysgol yn Llandysul. Armin ydoedd adeg ei ordeinio, ond mynnir ei fod yn Ariad yn niwedd ei oes. Ni bu yma'n hir oherwydd fe'i hetholwyd yn athro yn y clasuron yng Ngholeg Caerfyrddin yn 1814, ac yn weinidog Capel Seion, Llanddarog, a bu yma hyd ei farw cynnar ar 8 Medi 1830 yn 41 mlwydd oed. Bu cynnwrf adeg ei apwyntio'n athro, a cheisiodd David Davis, Castell Nedd, a John James, Gellionnen, sefydlu academi newydd ond ni ddaeth dim o'r peth. Yn ystod pum mlynedd olaf ei oes yr oedd yn weinidog ar eglwys Undodaidd Caerfyrddin. Ymhyfrydai yn hanes, llên, a hynafiaethau Cymru, a chyfansoddai farddoniaeth dan yr enw ' Glynadda.' Claddwyd ef ym mynwent Capel Seion.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.