JONES, LEWIS (1897 - 1939), areithydd comiwnyddol, aflonyddwr, arweinydd, ac awdur

Enw: Lewis Jones
Dyddiad geni: 1897
Dyddiad marw: 1939
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: areithydd comiwnyddol, aflonyddwr, arweinydd, ac awdur
Maes gweithgaredd: Llenyddiaeth ac Ysgrifennu; Gwleidyddiaeth a Mudiadau Gwleidyddol
Awdur: Idris Cox

Ganwyd yng Nghwm Clydach, Rhondda. Gweithiodd wrth y wythïen lo ym mhwll Cambrian, 1911-23. Astudiodd yng Ngholeg Llafur, Llundain, 1923-5, ac yna aeth yn ôl at ei waith yn y pwll glo. Yr oedd yn arweinydd lleol yn y streic gyffredinol ac yn 'lock-out' y glowyr, 1926, ac etholwyd ef yn gloriannydd ('checkweigher') yn 1927. Mewn byr amser yr oedd yn un o'r miloedd di-waith yn y Rhondda, ac arweiniwr ymdeithiau newyn gerbron pwyllgorau cymorth cyhoeddus ym Mhenybont, Pontypridd, etc., ac yn arwain minteioedd Cymreig yn yr ymdeithiau newyn cenedlaethol i Lundain, 1934 a 1936.

Etholwyd Jones yn aelod o gyngor sir Morgannwg, 1934-9, ac o Bwyllgor Cymreig y Blaid Gomiwnyddol, 1931-9. Arweiniodd ymgyrchoedd yng Nghymru yn erbyn yr ymosodiad Ffasgaidd ar werinlywodraeth Sbaen, 1937-9, a bu farw wedi iddo fod yn annerch cyfarfodydd ar y stryd yng Nghaerdydd o blaid Sbaen, Ionawr, 1939.

Yr oedd yn areithydd huawdl gydag apêl bersonol gref, yn medru cyffroi teimladau dynol, ac yn feistr ar ddelweddau a gweledigaethau syml am Sosialaeth ymarferol. Yn 1937 ysgrifennodd Cwmardy , nofel fyw am streic enwog y Cambrian Combine, 1910-1, ac am frwydr y glowyr hyd 1926, ac wedyn olynydd iddi, We Live , a gyhoeddwyd wedi ei farw.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.