JONES, MORGAN (1717? - 1780), Cefnarthen, gweinidog Annibynnol

Enw: Morgan Jones
Dyddiad geni: 1717?
Dyddiad marw: 1780
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: gweinidog Annibynnol
Maes gweithgaredd: Crefydd
Awdur: John Dyfnallt Owen

Ganwyd yn Tŷ-gwyn, Cefnarthen - yn 1717, fel y tybir. Preswyliai ar ei dir ei hun yn Tŷ-gwyn. Gwasnaethai gyda gweinidogion eraill yn urddiad John Davies yng Nghefnarthen, Awst 1768. Ni wyddys a oedd yn weinidog ordeiniedig neu wedi ei godi i bregethu yn ei eglwys cyn 1771, eithr gwyddys iddo fod yn weinidog Cefnarthen a Pentre-tŷ-gwyn, 1771-80. Derbyniodd rodd oddi wrth y Bwrdd Presbyteraidd yn 1774. Morgan Jones sydd yn arwyddo'r anerchiad (22 Gorffennaf 1754) ' At y Darllenydd ' sydd yn rhagflaenu ail argraffiad (Bryste, 1754) Mer Difinyddiaeth Iachus. Bu farw 1 Ebrill 1780.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.