JONES, OWEN ('Owain Myfyr'; 1741 - 1814), crwynwr yn Llundain, ac un o'r ffigurau amlycaf ym mywyd llenyddol Cymru yn niwedd y 18fed ganrif a dechrau'r 19fed

Enw: Owen Jones
Ffugenw: Owain Myfyr
Dyddiad geni: 1741
Dyddiad marw: 1814
Plentyn: Owen Jones
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: crwynwr yn Llundain, ac un o'r ffigurau amlycaf ym mywyd llenyddol Cymru yn niwedd y 18fed ganrif a dechrau'r 19fed
Maes gweithgaredd: Diwydiant a Busnes; Llenyddiaeth ac Ysgrifennu; Argraffu a Chyhoeddi
Awdur: Griffith John Williams

Ganwyd 3 Medi 1741 yn Llanfihangel Glyn Myfyr, sir Ddinbych. Pan oedd yn wr ifanc, aeth i Lundain yn brentis o grwynwr. Gweithiai gyda Messrs. Kidney and Nutt yn Ducksfoot Lane, a phan oedd tua 40 oed, cafodd y fusnes i'w ddwylo ei hun. Ei gyfeiriad o tua 1782 ymlaen ydoedd 148 Upper Thames Street. Daeth yn wr cyfoethog, oherwydd er cymaint sylw a rôi i'r gwaith o hyrwyddo bywyd llenyddol Cymru nid esgeulusodd ei fusnes. Ac yntau dros ei 60 oed, priododd, a bu iddo dri o blant. Bu farw 26 Medi 1814, a chladdwyd ef ym mynwent Allhallows.

Wedi iddo ddyfod i Lundain yn wr ifanc, daeth i gysylltiad â Richard Morris a Chymry eraill y Brifddinas. Dyma'r gymdeithas a enynnodd ei ddiddordeb yn hanes llenyddiaeth Gymraeg ac ym mywyd llenyddol y dydd. Yn y cyfnod hwn, fe'i galwai ei hun yn ' Owain ap Huw.' Fe'i cawn ef a'i gyfaill, ' Robin Ddu o Fôn,' yn 1768 yn codi gwaith Dafydd ap Gwilym o lyfrau'r Morrisiaid yn ogystal â phob math o ddefnyddiau eraill a welent yn yr hen lawysgrifau. Dyma un o'i brif ddiddordebau trwy gydol ei yrfa. Ni wyddom pa bryd yr ymunodd â Chymdeithas y Cymmrodorion, ond dengys yr argraffiad o'r Gosodedigaethau a gyhoeddwyd yn 1778 mai ef oedd yr ysgrifennydd cynorthwyol yn y dyddiau hynny.

Ond yr oedd ef a ' Robin Ddu ' wedi sefydlu cymdeithas arall cyn hynny, sef Cymdeithas y Gwyneddigion. Cynhaliwyd y cyfarfod cyntaf ym mis Rhagfyr 1770, a'r llywydd yn 1771 ydoedd ' Owain Myfyr.' Bu'n llywydd droeon wedi hynny, a hefyd yn ysgrifennydd ac yn drysorydd. Wedi marw'r Cymmrodorion yn 1787, dechreuodd Cymdeithas y Gwyneddigion ar ei gyrfa fel prif noddwr dysg Gymraeg, ac ' Owain Myfyr ' a fu wrth y llyw am dros 20 mlynedd. Cyfarfyddai Cymry llengar Llundain yn nhafarn y Bull's Head (neu'r ' Crindy'), ac yno y trefnid yr holl waith. Yn 1789, dechreuodd y gymdeithas gynnig gwobrau am awdlau yn y cyfarfodydd a gynhaliai'r mân feirdd yng Ngogledd Cymru, a dyma ddechrau'r eisteddfod, fel y gwyddom ni amdani.

Yn yr un flwyddyn hefyd dechreuwyd cyflawni'r gorchwyl y buasai ysgolheigion Cymraeg yn breuddwydio amdano trwy gydol y 18fed ganrif, sef cyhoeddi cynnwys yr hen lawysgrifau. Yn 1789, cyhoeddwyd gwaith Dafydd ap Gwilym, ac ' Owain Myfyr ' yn un o'r golygyddion. Yna, yn 1798, ffurfiwyd cynllun mawreddog i gyhoeddi holl gynnwys y llawysgrifau, ac, yn 1801, ymddangosodd dwy gyfrol fawr o dan y teitl, The Myvyrian Archaiology of Wales , lle y ceid gwaith y Cynfeirdd a'r Gogynfeirdd a chasgliad o'r Brutiau. Ni allwyd myned ymlaen â'r gwaith am gyfnod, a hynny oherwydd colledion a gawsai ' Owain Myfyr ' yn ei fusnes, ond yn 1807 cyhoeddwyd trydedd gyfrol. Bwriedid cynnwys y Mabinogi a'r Rhamantau, a thalodd ' Owain Myfyr,' i gopïwyr am lunio casgliad gweddol gyflawn o weithiau'r cywyddwyr. Heblaw hyn, bwriadai ddwyn allan argraffiadau newydd o brif glasuron yr 16eg ganrif a'r 17eg ganrif. Daw terfyn ar y gweithgarwch hwn tua 1807. Ni allai ef namyn cynllunio, ac wedi i William Owen Pughe gael etifeddiaeth yn sir Ddinbych, nid oedd ganddo neb i ymgymryd â'r caledwaith. Heblaw hyn, yr oedd yn hen wr a phlant ifainc yn dibynnu arno. Dylem gofio o hyd na byddai gweithgarwch y cyfnod hwn (1789-1807) yn bosibl onibai am ei haelioni ef. Ef a dalai holl gostau'r cyhoeddi. Gwariodd filoedd o bunnoedd, ac y mae llythyrau'r cyfnod yn dangos pa help ariannol a roes i bob math o fudiadau a hefyd i feirdd a llenorion Cymru. Rhaid ei restru ymhlith prif gymwynaswyr dysg Gymraeg. Y mae ei lawysgrifau a'i bapurau a'i lythyrau yn yr Amgueddfa Brydeinig.

Mab iddo oedd Owen Jones (1809 - 1874), a nai iddo oedd Hugh Maurice.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.