JONES, WILLIAM OWEN ('Eos y Gogledd '; 1868 - 1928), cerddor

Enw: William Owen Jones
Ffugenw: Eos Y Gogledd
Dyddiad geni: 1868
Dyddiad marw: 1928
Priod: Margaret Jones (née Jones)
Rhiant: Owen Jones
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: cerddor
Maes gweithgaredd: Eisteddfod; Cerddoriaeth; Perfformio
Awdur: John William Jones

Ganwyd yn Llanbedr Dyffryn Conwy, 29 Rhagfyr 1868, mab Owen Jones a'i wraig, a symudodd, yn 1877, i Ddolrhedyn, Blaenau Ffestiniog. Bu yn ysgol elfennol Tanygrisiau, ac aeth i weithio fel chwarelwr yn chwarel Cwmorthin; bu'n gweithio hefyd yn chwarel Maenofferen. Priododd, 1901, Margaret Jones, Capel Garmon. Aeth i Goleg y Brifysgol, Caerdydd, i astudio cerddoriaeth o dan Dr. Joseph Parry. Bu'n byw yn Cilfynydd ac ym Merthyr Tydfil (lle yr oedd yn gôr-feistr yng nghapel Soar) o 1907 hyd 1927, pryd y dychwelodd i Blaenau Ffestiniog. Bu'n arwain corau a chyfansoddodd ganeuon (e.e. ' Telynau'r Saint') ac anthemau. Eithr mewn cysylltiad â chanu penillion telyn y cofir amdano fynychaf - fel datganwr a beirniad mewn eisteddfodau. Bu farw 10 Chwefror 1928, a chladdwyd ef yng nghladdfa Bethesda, Blaenau Ffestiniog.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC-RUU/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.