JONES, JOHN RICHARD (1765 - 1822), gweinidog gyda'r Bedyddwyr

Enw: John Richard Jones
Dyddiad geni: 1765
Dyddiad marw: 1822
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: gweinidog gyda'r Bedyddwyr
Maes gweithgaredd: Crefydd
Awdur: John Thomas Jones

Gweinidog Ramoth, Llanfrothen, Sir Feirionnydd. Ganwyd yn y Bryn Melyn, plwyf Llanuwchllyn, 13 Hydref 1765. Yr oedd ynddo gryn dipyn o reddf yr ysgolhaig o'i febyd. Yn llanc gallai ddarllen ac ysgrifennu Saesneg a medrai rifyddiaeth; gwyddai fesurau cerdd dafod a chyfrinion tôn ac alaw, a'i lais yn berorol. Bu'n aelod ac yn bregethwr gyda'r Annibynwyr yn yr 'Hen Gapel,' Llanuwchllyn, ond newidiodd ei enwad, a bedyddiwyd ef gan Henry Davies, Llangloffan, yn Nhrawsfynydd, 7 Mehefin 1788. Ordeiniwyd ef, 4 Tachwedd 1789, yn weinidog ar eglwys Ramoth (canolfan Bedyddwyr Meirion) a'i changhennau. Rhwng 1789 a 1798 yr oedd yn rheng flaenaf pregethwyr ei enwad ac yn un o arweinwyr y Bedyddwyr Neilltuol trwy Dde a Gogledd. Daeth i afael ar weithiau Archibald Maclean (o Sgotland) a chael ynddynt yn ei farn ef ddehongliad teg o ddysgeidiaeth y Testament Newydd a phortread gwell o Gristionogaeth seml yr Eglwys Apostolaidd. Adfer ordinhadau ac arferion yr Eglwys Fore, pwysleisio ochr ddeallol ffydd, newid dull pregethu y pregethwyr poblogaidd gyda'u hwyl Fethodistaidd a'u damhegu parhaus ar yr Ysgrythurau, a 'neidio' gorfoleddus y cynulleidfaoedd, a fynnai ef. Bu Christmas Evans yn ei gynorthwyo yn fawr i ledaenu ei syniadau rhwng 1795 a 1798, ond pan ymneilltuodd J. R. Jones oddi wrth Fedyddwyr 'Babilonaidd' Cymru yng nghyfarfod y Gabidwl Fawr yn Ramoth, tua diwedd 1798, a ffurfio ei enwad ei hun, y ' Bedyddwyr Albanaidd,' pallodd Christmas fwy na heb. Casglodd J. R. Jones gorff o bobl o'i gwmpas (rhifent o leiaf 350 yn 1807) ac erys ei enwad hyd heddiw yn ardaloedd Harlech, Ffestiniog, Glynceiriog, a'r Rhosllannerchrugog. Am 24 mlynedd, bu'n gadfridog i'w bobl, yn gerddwr diymarbed tros ei blwyf gwasgarog, yn ymwrthod o argyhoeddiad â chyflog, yn iawn gyfrannu Gair y Gwirionedd. O'i bum llyfr cyhoeddedig, y mae tri yn gasgliadau o emynau (ei eiddo ei hun ac emynwyr eraill), a dau yn ymwneuthun ag egwyddorion a daliadau ei enwad. Gwr amryddawn ydoedd, o alluoedd disglair, â diddordeb mewn pob math o wybodaeth. Gwyddai rywfaint o Roeg, Lladin, a Hebraeg; yr oedd yn dipyn o beiriannydd ac yr oedd iddo ddiddordeb mewn mathemateg; yn ei ffordd ei hun, gydol ei oes, arferai grefft meddyg gwlad. Tystir i'w lais soniarus a'i ddawn canu, a medrai hefyd beroriaeth a gwyddor canu. Ymhoffai yng nghrefft barddoniaeth, ac yr oedd yn gyfaill ac yn athro diwinyddol i ' Robert ap Gwilym Ddu ' a ' Dewi Wyn.' Argyhoeddi, ymresymu, dehongli'r Ysgrythurau, plygu'r ewyllys - dyna'i nodweddion arbennig yn ei ddysg a'i bregethu. Peth naturiol iddo ef oedd bod yn bendant, yn ddogmatig, yn sicr o'i feddwl ei hun, ond yr oedd ynddo gadernid argyhoeddiad, hunanaberth yn ei wasanaeth i'w bobl, crefyddolder ysbryd. Ebe ' Ap Fychan ' amdano: ' Efe oedd y dyn mwyaf a fagodd Sir Feirionnydd erioed.' Bu farw 27 Mehefin 1822.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.