JONES, ROBERT (1806 - 1896), Llanllyfni, gweinidog gyda'r Bedyddwyr ac awdur

Enw: Robert Jones
Dyddiad geni: 1806
Dyddiad marw: 1896
Priod: Margaret Jones (née Hughes)
Rhiant: Mary Evans
Rhiant: John Evans
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: gweinidog gyda'r Bedyddwyr ac awdur
Maes gweithgaredd: Crefydd; Llenyddiaeth ac Ysgrifennu
Awdur: Griffith Thomas Roberts

Ganwyd yn Dolwenith, Llanllyfni, 14 Tachwedd 1806, mab hynaf John Evans, chwarelwr, a Mary ei wraig. Symudodd y teulu i Gae'rwaun yn yr ardal yn 1810, a gelwid Robert Jones ' Yr Hen Bencae'rwaun ' gan ei gydnabod. Dysgodd ddarllen yn ysgol Sabothol y Methodistiaid Calfinaidd a chafodd flwyddyn yn yr Ysgol Genedlaethol pan oedd yn 12 oed. Cafodd gyfarwyddyd ar y pwnc o fedydd gan Alsi Hughes, Taleithin Isaf, ac ymunodd â'r Bedyddwyr tua 1831. Dechreuodd bregethu yn fuan wedyn, ac ordeiniwyd ef yn weinidog Llanllyfni yn 1836. Priododd Margaret Hughes, Ochr-y-foel, ar 23 Chwefror 1838, ac yn Ochr-y-foel, Mynydd Llanllyfni, y bu yn byw am y gweddill o'i oes. Bu'n weinidog Llanllyfni, Pontlyfni, a Llanaelhaearn (1836-43; Llanllyfni, y Garn, a Chapel y Beirdd (1843-55); Llanllyfni a Thalysarn (1855-70); Llanllyfni (1870-85); Llanllyfni a Phen-y-groes (1885-8). Efe oedd llywydd Undeb y Bedyddwyr Cymreig yn 1880. Cyhoeddodd 12 o lyfrau: Holwyddoreg yr Ymneilltuwyr Protestanaidd, 1832, cyfieithiad o waith Saesneg S. Palmer; Golygiad Byr ar Fedydd Cristnogol, 1839, cyfieithiad o lyfryn Saesneg John Craps; Cofiant Evan Evans gweinidog y Bedyddwyr yn y Garn, 1842; Bedydd y Testament Newydd yn cael ei Amddiffyn, 1846, i ateb llyfryn William Roberts, Clynnog, ar fedyddio babanod; Casgliad o Hymnau ar Destynau Efengylaidd, 1851, yn cynnwys 918 o emynau a llawer ohonynt yn waith Robert Jones ei hunan; Ystyriaethau ar Fedydd, 1853; Traethawd ar Babyddiaeth, 1855 - dyma'r llyfr y rhoes fwyaf o'i amser iddo; Gemau Duwinyddol, 1865, casgliad o nodiadau o weithiau y Piwritaniaid ynghyd â llawer o'i waith ef ei hun; Llais y Durtur, 1876, 200 o emynau ar gyfer yr ysgol Sabothol; Cydymaith Dyddanus, 1878, 597 o hanesion byrion am waredigaethau ac erlidiau; Gemau Duwinyddol, ail arg. gydag ychwanegiadau, 1882; Pregethau Robert Jones, 1883. Yr oedd yn ŵr hynod yn ei ymddangosiad, ei ddull o feddwl, a'i ffordd o fynegi ei feddwl. Yr oedd yn Rhyddfrydwr selog (gweler Y Faner, 2 Rhagfyr 1868), ac areithiai lawer ar bynciau gwleidyddol, crefyddol, a chymdeithasol. Bu farw 3 Mawrth 1896.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.