JONES, THOMAS ROCYN (1822-1877), meddyg esgyrn

Enw: Thomas Rocyn Jones
Dyddiad geni: 1822
Dyddiad marw: 1877
Priod: Mary Jones (née Rees)
Plentyn: David Rocyn Jones
Rhiant: Thomas Jones
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: meddyg esgyrn
Maes gweithgaredd: Meddygaeth
Awdur: Arthur Rocyn Jones

Ganwyd yn Penalltgoch, Maenordeifi, Sir Benfro, mab Thomas Jones. Yr oedd y tad, heblaw ffermio Penalltgoch, yn gelfydd yn y gwaith o drin clefydau anifeiliaid, a gelwid am ei wasanaeth yn fynych yn siroedd Aberteifi, Caerfyrddin, a Phenfro. Bu'r mab yn helpu'r tad ar y fferm, gan ddangos diddordeb arbennig yn ei waith fel meddyg anifeiliaid. Fel y cynyddai ei brofiad, dechreuodd fanteisio ar ei wybodaeth am glefydau ac anhwylderau anifeiliaid a rhoddi mwy o sylw i drin damweiniau a gâi dynion a merched. Gymaint oedd ei lwyddiant fel meddyg esgyrn nes y peidiodd â thrin anifeiliaid.

Yn y cyfnod hwn yr oedd datblygiad diwydiannol Morgannwg a Mynwy yn denu y dynion ieuainc mwyaf anturiaethus o'r ardaloedd gwledig. Symudodd Thomas Jones i sir Fynwy ac ymsefydlu yn Rhymni. Ymhen ychydig flynyddoedd yr oedd wedi adeiladu practis helaeth; yr oedd ei allu fel meddyg esgyrn yn dwyn ato gleifion ac anafusion o Dde Cymru ac o siroedd Lloegr a oedd ar y goror. Yr oedd yn gelfydd iawn wrth drin esgyrn a dorrwyd neu a symudwyd o'u lle, a gewynnau a anafwyd. Yr oedd ganddo ei ddulliau gwreiddiol ei hun er ei fod yn gyfarwydd, oherwydd darllen amdanynt mewn llyfrau, â'r dulliau arferedig a chydnabyddedig. Dyfeisiodd sblintiau coed wedi eu cerfio a chyda darn i droed; mow'diai sblintiau o 'gutta-percha' er mwyn cadw'r llaw i orffwys ac yn estynedig mewn achosion o barlys, neu pan fyddai gewynnau wedi eu dolurio yn fawr; yr oedd hefyd yn dodi darnau ar ffurf cŷn y tu mewn i esgidiau er mwyn lleihau straen ar draed. Yr oedd y rhain oll yn bethau a wnâi ac a ddefnyddiai ef am hanner can mlynedd o leiaf cyn iddynt ddod i gael eu defnyddio'n gyffredin gan feddygon orthopedig. Credai llawer iawn o bobl iddo achub eu haelodau hwynt rhag cael eu torri ymaith.

Priododd Mary Rees, un o ddisgynyddion Rhys Davies ('y Glun Bren'), ysgolfeistr a phregethwr teithiol yr argyhoeddwyd 'Williams o'r Wern' ganddo. Tua diwedd ei oes rhoddwyd iddo ei ddarlun mewn olew yn gydnabyddiaeth am ei lu o droeon caredig a dyngarol. Bu farw 2 Ebrill 1877 yn 55 oed. Rhoddwyd colofn ar ei fedd ym mynwent Rhymni.

Dilynwyd ef yn ei bractis gan ei fab hynaf, David Rocyn Jones (1847 - 1915). Yr oedd yntau lawn mor gelfydd a'i dad fel meddyg esgyrn, a daeth yr un mor enwog. Nid oedd mor gryf ei bersonoliaeth â'i dad ond yr oedd iddo rinweddau eraill; yr oedd ganddo lais tenor da a bu'n gorfeistr ei eglwys.

Awdur

Ffynonellau

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.