JONES, THEOPHILUS (1759-1812), hanesydd sir Frycheiniog;
g. yn Aberhonddu 18 Hydref 1759 (nid 1758), yn fab i Hugh Jones, a oedd ar y pryd yn gurad Llanfaes, Aberhonddu, ac a fu wedyn yn ficer Llangamarch (1763-8) a Llywel (1768-99) ac yn brebendari yng Ngholeg Crist, Aberhonddu; ei fam oedd Elinor (a fu f. 1786), ferch Theophilus Evans [q.v.]; bwriodd Theophilus Jones lawer o'i fachgendod yn Llwyn Einion, Llangamarch, cartref ei daid, a chafodd ddogfennau hanesyddol ar ei ôl. Addysgwyd ef yn ysgol Coleg Crist, dan David Griffith [q.v.]; yr oedd yno ar yr un pryd ag Edward Davies, ‘y Celtig Ddafis’ [q.v.], a bu'r ddau yn gyfeillion mynwesol byth wedyn. Bu am gryn amser yn gyfreithiwr, ond penodwyd ef yn ddirprwy-gofrestrydd i'r archddiaconiaeth, ac yna ymddeolodd o'i waith fel cyfreithiwr ac ymroes i ymchwil hanesyddol. Priododd (â Mary Price o Borth-y-rhyd ger Caerfyrddin), ac aeth i fyw i hen dŷ ei dad — saif y tŷ heddiw; ynddo y bu farw yr esgob George Bull. Gellid meddwl mai tua 1800, ar ôl marw ei dad (1799), y penderfynodd sgrifennu hanes ei sir. Ymddangosodd y gyfrol gyntaf o'r History of Brecknockshire yn 1805, a'r ail (a gyflwynwyd i Edward Davies) yn 1809. Ym mlynyddoedd olaf ei fywyd, yr oedd Jones yn gyfeillgar iawn â Thomas Price (‘Carnhuanawc’) [q.v.]. Bu f. 15 Ionawr 1812, a chladdwyd yn Llangamarch. Medrai Gymraeg; gwnaeth gyfieithiad (anghyhoedd) o'r Bardd Cwsc, a bu ‘Llyfr Aneirin’ am gyfnod yn ei feddiant — fe'i cafodd gan Thomas Bacon [q.v.], a ‘Carnhuanawc’ a'i cafodd wedi ei f. Bwriadai sgrifennu hanes sir Faesyfed, a chyfrannodd amryw bapurau i'r Cambrian Register ac i Archaeologia. Cyhoeddwyd cyfrol goffa, Theophilus Jones, Historian, yn 1905 gan Edwin Davies [q.v.], sy'n cynnwys yr ysgrifau hyn, ei lythyrau at Edward Davies ac at Walter Davies (‘Gwallter Mechain’), a byr-gofiant gan Gwenllian E. F. Morgan [q.v.].
Yr History of Brecknockshire, hyd heddiw, yw'r gorau o ddigon o'n llyfrau ar hanes siroedd Cymru; gwaith chwilotwr dyfal a manwl. Y mae rhagfarnau'r awdur yn rhy amlwg i beri trafferth — ei wrth-Babyddiaeth, ei wrth-Ymneilltuaeth, ei wrth-Fethodistiaeth (eto noder yr ysgrif ar Howel Harris, 121-5 o'r gyfrol goffa uchod, nad yw'n gwbl angharedig), a'r elfen ryddieithol ynddo a'i dallai i ragoriaethau Henry Vaughan. Cyhoeddwyd 2il arg., gyda rhai chwanegiadau, gan Edwin Davies yn 1898, yn un gyfrol. Yn 1909-11 dug Davies allan 3ydd arg., a gwplawyd gan gymdeithas hanes y sir yn 1930; cynnwys hwn chwanegiadau helaeth o gasgliad arglwydd cyntaf Glanusk (gw. o dan ‘Bailey’). Yn yr arg. pedair cyfrol gwych hwn, y mae'r llyfr yn gwbl anhepgor i'r sawl a fyn astudio hanes Brycheiniog.
Awdur:
Yr Athro Emeritus Robert Thomas Jenkins, C.B.E., D.Litt., Ll.D., F.S.A., (1881-1969), Bangor.
Atodiadau a chywiriadau:
JONES, THEOPHILUS (Bywg., 483)
Rhwng Llanwrda a Chil-y-cwm (nid ‘ger Caerfyrddin’) y mae'r Porth-y-rhyd a oedd yn gartref ei wraig, merch Rhys Price o'i wraig gyntaf, Mary; yn y llan ym Myddfai y claddwyd hi.
Awdur:
Y Parch. Gomer Morgan Roberts, M.A., (1904-93), Pont-rhyd-y-fen / Llandudoch / Llandybïe