JONES, Syr THOMAS (bu farw 1731), trysorydd ac ysgrifennydd cyntaf Cymdeithas yr Hen Frutaniaid yn Llundain, ac awdur

Enw: Thomas Jones
Dyddiad marw: 1731
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: trysorydd ac ysgrifennydd cyntaf Cymdeithas yr Hen Frutaniaid yn Llundain, ac awdur
Maes gweithgaredd: Hanes a Diwylliant; Llenyddiaeth ac Ysgrifennu
Awdur: Robert Thomas Jenkins

Awdur y pamffledyn The Rise and Progress of the … Society of Antient Britons , 1717, a ailargraffwyd (mewn rhan) lawer tro gan y gymdeithas honno. Urddwyd ef yn farchog ym mis Medi 1715, pan gyflwynodd y gymdeithas anerchiad teyrngar i'r brenin Siôr I, a disgrifir ef ar yr achlysur fel 'Thomas Jones, of Lincoln's Inn, Barrister at Law.' Nid oes ond un enw o'r fath yn 'Admission Register' Lincoln's Inn yn ystod y blynyddoedd y gellid disgwyl i Thomas Jones fod yn aelod, sef 'Thomas Jones, of Chancery Lane, Gent.', a dderbyniwyd yn aelod ar 17 Chwefror 1707-8. Yn rhestr Gray's Inn, fodd bynnag, dan 20 Tachwedd 1713, cawn 'Thomas Jones, of Newcastle, co. Glamorgan, gent (admitted to Lincoln's Inn, February 10, 1707, by certificate of John Hungerford, Treasurer).' Ar waethaf yr wythnos o wahaniaeth yn y dyddiadau, gellir barnu mai yr un dyn sydd yma; os felly, dyn o Benybont-ar-Ogwr. Rhydd W. R. Williams, yn Old Wales , i, 38, y cofnod a ganlyn inni, ond heb nodi ei ffynhonnell: '1731, on 11 January died Sir Thomas Jones, at his house in Boswel Court, Treasurer and Secretary of the Most Honourable Society of Ancient Britons; a Justice of the Peace and Register of Memorials relating to Estates for the County of Middlesex.'

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.