JONES, THOMAS (1752 - 1845), clerigwr

Enw: Thomas Jones
Dyddiad geni: 1752
Dyddiad marw: 1845
Rhiant: John Thomas
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: clerigwr
Maes gweithgaredd: Crefydd
Awdur: Thomas Iorwerth Ellis

Ganwyd yng Nghefn yr Esgair, Hafod, Sir Aberteifi, 2 Ebrill 1752, mab John Thomas. Yn 1765 aeth i ysgol Ystrad Meurig, ac ar ôl naw mlynedd yno, urddwyd ef yn ddiacon, Medi 1774, a'i drwyddedu'n gurad Eglwysfach a Llangynfelyn yn esgobaeth Tyddewi. Yn 1779 aeth i Leintwardine, sir Henffordd, ac ar ôl gwasnaethu yn Longnor (Sir Amwythig), Croesoswallt, a Loppington, aeth i Great Creaton yn swydd Northampton, a bu yno'n gurad am 43 mlynedd. Am y 18 mlynedd olaf (1810-28) bu'n gurad Spratton hefyd. Yn 1828, yn 76 oed, dyrchafwyd ef yn rheithor Creaton a daliodd y fywoliaeth hyd 1833. Bu farw 7 Ionawr 1845 a'i gladdu yn Spratton.

Bu Thomas Jones yn gohebu â Thomas Charles ynghylch sefydlu ysgolion Sul, ac agorodd un ei hun yn Creaton yn 1789. Llwyddodd hefyd i ddarbwyllo'r Gymdeithas er Taenu Gwybodaeth Gristionogol i gyhoeddi, yn 1799, argraffiad o'r Beibl Cymraeg; pan barhaodd y galw amdanynt, ceisiodd gan y gymdeithas gyhoeddi argraffiad arall, ond methodd. Yn ddiweddarach, drwy ei ymdrechion ef a'r eiddo Thomas Charles, sefydlwyd y Feibl Gymdeithas Frutanaidd a Thramor.

Yr oedd Thomas Jones yn bregethwr efengylaidd, gwresog, ac yn awdur cynhyrchiol. Cyfieithodd nifer o lyfrau yn Gymraeg, o waith Richard Baxter ac eraill, ac ysgrifennodd 17 o gyhoeddiadau yn Saesneg; efallai mai'r mwyaf hysbys yw The Welsh Looking-glass, 1812.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.