JONES, ROBERT THOMAS (1874 - 1940), arweinydd Llafur

Enw: Robert Thomas Jones
Dyddiad geni: 1874
Dyddiad marw: 1940
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: arweinydd Llafur
Maes gweithgaredd: Diwydiant a Busnes; Gwleidyddiaeth a Mudiadau Gwleidyddol
Awdur: David Thomas

Ganwyd yn Blaenau Ffestiniog, 14 Hydref 1874. Bu'n ysgrifennydd Undeb Chwarelwyr Gogledd Cymru, 1908-33 - y chwarelwr cyntaf a ddewiswyd yn ysgrifennydd yr undeb - ac yn aelod seneddol dros sir Gaernarfon, 1922-3. Yr oedd yn aelod o'r ddirprwyaeth frenhinol ar fwynfeydd metel a chwareli, 1910-4, o gyngor cyffredinol y Trades Union Congress, 1921-32, a lliaws o fyrddau cyhoeddus yng Nghymru. Llwyddodd i gael gwell dealltwriaeth rhwng y chwarelwyr a'u cyflogwyr, ac enillodd ' Siarter y Chwarelwyr,' yn darparu isrif cyflogau, hyfforddiant i brentisiaid, etc. Hyrwyddodd sefydlu dosbarthiadau'r brifysgol ymysg y chwarelwyr. Bu farw 15 Rhagfyr 1940 yng Nghaernarfon.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.