JONES, JOHN VIRIAMU (1856 - 1901), gwyddonydd, a phrifathro cyntaf Coleg y Brifysgol yng Nghaerdydd

Enw: John Viriamu Jones
Dyddiad geni: 1856
Dyddiad marw: 1901
Priod: Katherine Jones (née Wills)
Rhiant: Thomas Jones
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: gwyddonydd, a phrifathro cyntaf Coleg y Brifysgol yng Nghaerdydd
Maes gweithgaredd: Addysg; Gwyddoniaeth a Mathemateg
Awdur: Edgar William Jones

Ganwyd 2 Ionawr 1856 ym Mhentre-poeth, Abertawe, yn fab i Thomas Jones (1819 - 1882); dull brodorion Erromanga o gynanu cyfenw John Williams y cenhadwr a barodd i'w dad roi'r enw 'Viriamu' iddo; brawd iddo oedd Syr David Brynmor Jones. Cafodd yrfa addysgol hynod ddisglair; graddiodd yn Llundain yn 19 oed, gydag anrhydedd yn y dosbarth blaenaf mewn daeareg; yn 1874 aeth yn ' Brackenbury Scholar ' i Goleg Balliol yn Rhydychen (lle y daeth yn gyfaill mawr i Benjamin Jowett); graddiodd yno yn 1879 yn y dosbarth blaenaf mewn mathemateg a hefyd mewn anianeg. Yn 25 oed, penodwyd ef yn brifathro (ac athro mathemateg ac anianeg) yn Firth College, Sheffield, ac yn 1883 yn brifathro'r coleg newydd yng Nghaerdydd. Casglodd staff alluog o'i gwmpas, a bu'n llwyddiant mawr fel prifathro; yr oedd yn ŵr o ddiwylliant eang iawn, a chanddo ef a'i briod Katherine Wills, ferch y barnwr Wills, ddylanwad mawr ar y myfyrwyr. Casglodd tua £70,000 at y coleg, ac ef a ddarbwyllodd ddinas Caerdydd i gyflwyno iddo'r tir y saif adeiladau presennol y coleg arno. Yr oedd yn frwd iawn ym mhlaid cael prifysgol i Gymru; cymerth ran flaenllaw yn y paratoadau at hynny, ac ef oedd is-ganghellor cyntaf y Brifysgol (1895-6). Ymdrechodd hefyd i ddatblygu addysg ganolraddol yng Nghymru, ac ef oedd is-lywydd cyntaf y Bwrdd Canol. Ym myd gwyddoniaeth, ymddiddorai'n bennaf mewn trydan - yn neilltuol, llwyddodd i safoni'r uned drydanol a enwir yn 'ohm' ac i wella llawer ar yr aparâtws at ymchwil drydanol; etholwyd ef yn F.R.S. yn 1894. Dringo'r Alpau oedd ei adloniant. Bu farw yn Geneva, 1 Mehefin 1901, a chladdwyd wrth ochr ei dad ym mynwent S. Thomas, Abertawe.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.