JONES, DAVID WATKIN ('Dafydd Morganwg'; 1832 - 1905), bardd, hanesydd, a daearegydd

Enw: David Watkin Jones
Ffugenw: Dafydd Morganwg
Dyddiad geni: 1832
Dyddiad marw: 1905
Rhiant: John Jones
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: bardd, hanesydd, a daearegydd
Maes gweithgaredd: Eisteddfod; Hanes a Diwylliant; Natur ac Amaethyddiaeth; Barddoniaeth; Gwyddoniaeth a Mathemateg
Awdur: Moelwyn Idwal Williams

Ganwyd ym Merthyr Tydfil, 14 Chwefror 1832, mab John Jones, cefnder i Daniel Evans ('Daniel Ddu o Geredigion'). Dechreuodd weithio yn y lofa cyn ei fod yn 10 mlwydd oed. Gwrthododd hyfforddiant ar gyfer yr Eglwys, a thrwy ei ddyfalbarhad cafodd ei wneud yn danwr yn 1859, ac yn yr un flwyddyn enillodd ei wobr eisteddfodol gyntaf. Gwasnaethodd y Compagnie Générale Transatlantique fel goruchwyliwr am 30 mlynedd.

Bu yn eisteddfodwr llwyddiannus iawn, yn cael ei brif wobrwyon ym Machynlleth 1870, Llanberis 1878, a Chaerdydd, 1883. Sgrifennodd lawer i'r Geninen a chylchgronau eraill, a chyfrannodd yn helaeth i Cymru (O.J.). Yn 1874, cyhoeddodd ei Hanes Morganwg. Ond ei waith mwyaf adnabyddus, efallai, yw Yr Ysgol Farddol, gwerslyfr barddonol a gyhoeddwyd gyntaf yn 1869. Cyhoeddodd hefyd ramadeg defnyddiol yn ei ddydd, Yr Ysgol Gymreig. Bu'n olygydd y golofn Gymraeg yn y Cardiff Times am flynyddoedd lawer. Yn 1888 cafodd ei ethol yn llywydd cyntaf Cymdeithas Cymmrodorion Caerdydd. Bu farw 25 Ebrill 1905 yng Nghaerdydd.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.