JONES, WILLIAM (1718 - 1779?), cynghorwr ac arloeswr Methodistaidd

Enw: William Jones
Dyddiad geni: 1718
Dyddiad marw: 1779?
Plentyn: Hugh Jones
Rhiant: Hugh Jones
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: cynghorwr ac arloeswr Methodistaidd
Maes gweithgaredd: Crefydd
Awduron: William Griffith, Robert Thomas Jenkins

Bedyddiwyd 28 Gorffennaf 1718, mab Hugh Jones, Trefollwyn, trengholydd, ac uch-gwnstabl. Argyhoeddwyd ef dan Howel Harris (? Llŷn, 1741 - os felly y cynharaf o Fôn). Teifl ei lythyrau (1747-9) olau gwerthfawr ar hynt Methodistiaeth, yn arbennig ym Môn; dangosant gyfathrach agos rhyngddo â'r arweinwyr, a 'chyfaill' y geilw'r brodyr Wesley ef. Syrthiodd o dan gerydd Harris, a gwg Thomas William o Eglwysilan, oherwydd ei antinomiaeth, a lled-dybir iddo droi at y Morafiaid - deupeth a gyfrifai am ddigllonedd Robert Jones, Rhoslan - os ef oedd y gŵr nas enwir ganddo. Diflanasai o draddodiadau Methodistiaid Môn onibai am haneswyr diweddar. Ni wyddom ai cofnod ei gladdu ef ydyw: '1773, Wm. Jones, July 25th.'

Ychwaneger bellach fod awdur yr ysgrif (y Parch. William Griffith) wedi ei argyhoeddi (gweler ei lyfr Methodistiaeth Fore Môn (Caernarfon, 1955), t. 94, nad William Jones o Drefollwyn oedd y gŵr a fu farw yn 1773 fel y dywedir yn yr ysgrif. Gweler Henllys MS. 138 yng Ngholeg y Gogledd, copi o ewyllys (a arwyddwyd ar 12 Chwefror 1779) Jane Sacheverell, chwaer William Jones a John Jones (siryf Môn yn 1750) o Drefollwyn. Ynddi, gadewir arian i'w brawd 'William Jones, merchant, of Liverpool', i'w fab Hugh, 'a mariner', ac i eraill o'i deulu, gan gynnwys 'his present wife' - bu William Jones felly'n briod fwy nag unwaith. Felly, yr oedd William Jones (y mae, gyda llaw, dystiolaeth arall yn ei gysylltu ef â Lerpwl) eto'n fyw yn Chwefror 1779. Gellir nodi hefyd ei fod yn gefnder i'r Cymmrodor William Lloyd (1717 - 1777 o Cowden - eu mamau'n chwiorydd (gweler J. E. Griffith, Pedigrees, 93).

Awduron

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.