JONES, WILLIAM (1726 - 1795), hynafiaethydd a bardd

Enw: William Jones
Dyddiad geni: 1726
Dyddiad marw: 1795
Rhiant: Catherine David
Rhiant: William John David
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: hynafiaethydd a bardd
Maes gweithgaredd: Hanes a Diwylliant; Barddoniaeth
Awdur: Enid Pierce Roberts

Mab William John David a Catherine ei wraig. Swyddog ar y goits fawr o Amwythig i Fachynlleth oedd ei dad, ond amaethai hefyd Ddôl Hywel, Llangadfan, Sir Drefaldwyn, ac yno y bu William Jones fyw ar hyd ei oes. Bedyddiwyd ef yn eglwys blwyf Llangadfan, 18 Mehefin 1726.

Yr unig addysg a gafodd oedd ychydig amser yn un o ysgolion Griffith Jones yn yr ardal, eithr ymrodd ati i'w ddiwyllio ei hun. Medrai ysgrifennu Saesneg da er na allai ei siarad yn rhwydd. Meistrolodd Ladin a chyfieithodd ddarnau o Horas ac Ofydd i fydryddiaeth Gymraeg. Gohebai â'r Gwyneddigion a llenorion cyfoes a bu'n casglu alawon a dawnsfeydd gwerin i Edward Jones ('Bardd y Brenin'), a barddoniaeth, ynghyd a manylion am fesurau, i ' Owain Myfyr.' Casglodd achau hen deuluoedd Cymru gyda'r bwriad o'u hargraffu. Ysgrifennodd ddisgrifiad o blwyfi Llanerfyl, Llangadfan, a Garth-beibio, a chyhoeddwyd y gwaith gan ' Gwallter Mechain ' yn y Cambrian Register, 1796.

Cafodd gweithiau Voltaire ddylanwad mawr arno. Siaradai ac ysgrifennai o blaid rhyddid gwladol, a cheisiodd berswadio trigolion o'r ardal i ymfudo i'r Amerig a sefydlu gwladfa Gymreig yn Kentucky. Ysgrifennodd at Syr William Pulteney, A.S., Amwythig, i ofyn iddo ddwyn y mater gerbron y Senedd, ac at Mr. Pinckney, y llysgennad Americanaidd, yn 1792 a 1794, ond ni ddaeth dim o'i gynllun.

Ffieiddiai bob gormes a phob Sais -addoliaeth. Yn 1786 ysgrifennodd ar ran y tenantiaid at Syr Watkin Williams-Wynn yn cwyno oherwydd trahausder y stiwardiaid. Oherwydd ei fod yn un o bleidwyr y Chwyldro Ffrengig gorchmynnodd y Llywodraeth agor a chwilio ei lythyrau, ac i osgoi hyn parodd yntau eu cyfeirio i John Jones, Stonehouse. Eto yr oedd yn Eglwyswr selog, yn tywallt dychan ar y Methodistiaid. Bu'n warden yr eglwys yn 1769 ac yn 1787. Llwyddodd i'w iachâu ei hun o'r manwynnau, a mynych y gelwid am ei wasanaeth fel meddyg. Bwriadai gyhoeddi ei lyfr meddyginiaethau nes i ddeddf gwlad rwystro rhai didrwydded i ymarfer fel meddygon. Bu farw 20 Awst 1795 a chladdwyd ef ym mynwent Llangadfan.

Ŵyrion iddo ef oedd Evan Breeze ('Ieuan Cadfan'), ysgolfeistr a phregethwr cynorthwyol gyda'r Wesleaid, awdur dau lyfr o garolau plygain, ac Evan Jones ('Bardd y Nant'), enghraifft wych o ffraethineb bardd gwlad.

Ffugenwau a arddelai (yn ôl llawysgrif Mysefin yn Ll.G.C.) oedd ' W. Cadvan', 'Cadvan', 'Gwilym Cadvan'.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.