JONES, WILLIAM (1762 - 1846), gweinidog Bedyddwyr Albanaidd, golygydd, ac awdur

Enw: William Jones
Dyddiad geni: 1762
Dyddiad marw: 1846
Priod: Elizabeth Jones (née Crane)
Rhiant: Mary Jones
Rhiant: William Jones
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: gweinidog Bedyddwyr Albanaidd, golygydd, ac awdur
Maes gweithgaredd: Crefydd; Llenyddiaeth ac Ysgrifennu; Argraffu a Chyhoeddi
Awdur: John Idwal Jones

Ganwyd 17 Mehefin 1762, yn Parkside, Gresford, yn fab i William a Mary Jones, eglwyswyr selog, ond yn Poulton y treuliodd ei fachgendod. Aeth i weithio i Gaer tua 1780, a bedyddiwyd ef yno gan Archibald McLean. Symudodd i Lerpwl i gadw siop lyfrau yn 1793, ac etholwyd ef yn henuriad yn yr eglwys newydd a gorfforwyd yno gan Archibald McLean a J. R. Jones, Ramoth, tua 1798-9. Aeth i Lundain yn 1812 yn weinidog eglwys Windmill Street, Finsbury, ac yno y bu hyd ei farwolaeth ar 21 Ionawr 1846, a'i gladdu ym mynwent Bunhill Fields. Priododd Elizabeth Crane, aelod o deulu Bedyddiedig yng Nghaer.

Pleidio'r Bedyddwyr Albanaidd oedd prif amcan ei waith llenyddol. Cychwynnodd The Theological Repository yn 1800, The Christian Advocate yn 1809, The Baptist Miscellany and Particular Baptist Magazine yn 1827, a The Millennial Harbinger (ffrwyth ei ohebiaeth ag Alexander Campbell) yn 1835. Bu'n olygydd The New Evangelical Magazine 1815-24, a The New Baptist Magazine, 1825, a chyhoeddodd amryw o lyfrau, yn cynnwys The History of the Waldenses, 1811; A Dictionary of Religious Opinions, 1815; The Biblical Cyclopaedia, 1816; Christian Biography, 1829; ac Autobiography (gol. gan ei fab), 1846.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.