JONES, WILLIAM (1770 - 1837), gweinidog gyda'r Methodistiaid Calfinaidd

Enw: William Jones
Dyddiad geni: 1770
Dyddiad marw: 1837
Priod: Susan Jones
Rhiant: Catherine Jones
Rhiant: Cadwaladr Jones
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: gweinidog gyda'r Methodistiaid Calfinaidd
Maes gweithgaredd: Crefydd
Awdur: Robert Thomas Jenkins

un o'r wyth o Ogledd Cymru a ordeiniwyd yn 1811; ganwyd yn 1770, yn fab i Gadwaladr a Catherine Jones, Nant-fudr (Coed-cae-du), Trawsfynydd. Porthmon oedd ei dad, a'i hanfonodd i ysgol yn Lloegr. Wedyn, yn yrrwr gwartheg, aeth y llanc i Lundain, lle'r argyhoeddwyd ef dan bregeth William Romaine. Ymunodd â'r Methodistiaid Calfinaidd yn Nhrawsfynydd, ond yn 1794 ymbriododd â Susan Watkins, gweddw a breswyliai yn hendre hanesyddol Mathafarn yn Llanwrin (gweler dan Dafydd Llwyd ap Llywelyn), ac aeth i fyw yno ac i borthmona. Dechreuodd bregethu yn 1802. Yn 1805, symudodd i dyddyn cyfagos Dôl-y-fonddu, lle y bu farw 1 Mawrth 1837.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.