JONES, WILLIAM (1784 - 1847), gweinidog gyda'r Annibynwyr, a diwinydd

Enw: William Jones
Dyddiad geni: 1784
Dyddiad marw: 1847
Rhiant: Elizabeth Jones
Rhiant: William Jones
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: gweinidog gyda'r Annibynwyr, a diwinydd
Maes gweithgaredd: Crefydd
Awdur: Gomer Morgan Roberts

Ganwyd 1784 yn y Bala, mab William ac Elizabeth Jones. Blaenor Methodist oedd ei dad, ond ymunodd y mab â'r Annibynwyr c. 1800, a dechreuodd bregethu yn 1801. Addysgwyd ef yn athrofa Wrecsam, 1805-9; ordeiniwyd ef yn weinidog eglwysi Penybont-ar-Ogwr a Brynmenyn, Morgannwg, yn 1810; bu farw 5 Mehefin 1847 a'i gladdu wrth ymyl ei gapel ym Mhenybont. Yr oedd ' Jones, Penybont ' yn enwog fel pregethwr yn ei ddydd; cyhoeddodd gyfrol o'i bregethau, ond fel diwinydd cyfundrefnol y cofir ef. Cyhoeddodd Y Geiriadur Duwinyddol yn ddwy gyfrol yn 1837, ac ailargraffwyd y gwaith yn un gyfrol fawr yn 1864.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.