JONES, WILLIAM (1806 - 1873), clerigwr a llenor

Enw: William Jones
Dyddiad geni: 1806
Dyddiad marw: 1873
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: clerigwr a llenor
Maes gweithgaredd: Crefydd; Llenyddiaeth ac Ysgrifennu
Awdur: Robert Thomas Jenkins

Ganwyd, meddir, yn Niwbwrch. Bedyddiwyd ef yn Lerpwl, 2 Medi 1821, gan Daniel Jones (1788 - 1862), a dechreuodd bregethu gyda'r Bedyddwyr; o 1823 hyd 1827 bu yn athrofa Bradford, ac yna am dymor byr ym Mhrifysgol Glasgow. Urddwyd ef yn weinidog eglwys Llangefni ddydd Nadolig 1828. Symudodd i eglwys Treffynnon yn 1830, ac yno aeth ati i geisio cychwyn athrofa i'r Bedyddwyr yng Ngogledd Cymru; ond hwyrfrydig neilltuol fu ei gyd- Fedyddwyr i gefnogi'r cynllun - yn ddiweddarach teimlai gwŷr blaenllaw fel R. D. Roberts o Lwynhendy mai camgymeriad mawr fu iddynt wrthod. Daliodd William Jones i sgrifennu ymhlaid ei gynllun ac i deithio i gasglu arian ato. Ar daith felly ymwelodd ag Aberteifi, lle'r oedd gweinidog Bethania, John Herring, newydd farw; a rhoddwyd galwad iddo gan fwyafrif yr eglwys, ddiwedd 1832. Ond amheuid ei fod yn rhydd-gymunwr, ac am hyn ac achosion eraill cododd gwrthblaid gref - diarddelwyd honno, ond diwedd y peth fu i'r gymanfa ddiarddel eglwys Bethania a'r gweinidog gyda hi (1833). Troes yntau at yr Eglwys Wladol, ac aeth i Goleg Dewi Sant am flwyddyn a hanner. Urddwyd ef yn ddiacon (gan esgob Rochester) yn 1835, ac yn offeiriad (Tyddewi) yn 1836. Bu'n gurad Llanymddyfri (1835-7), a Llanbeulan ym Môn (1837-42), ac yn beriglor Nefyn a Charngiwch (1842-62). Ni bu'n ddiddig yn Nefyn, a rhoes adroddiad hallt i ddirprwywyr Comisiwn Addysg 1846-7 (gweler eu Report, iii, 42) o foesau ei thrigolion. Cafodd reithoraeth Llanenddwyn a Llanddwywe (Dyffryn Ardudwy) yn Hydref 1862 - yn fuan wedyn tystiai fod 'pobl Nefyn yn angylion o'u cymharu â phobl Llanddwywe.' Bu farw 3 Mehefin 1873, a'i gladdu yn Llanddwywe. Yr oedd yn ddyn galluog, ond annoeth yn ôl y farn gyffredin. Cyhoeddodd: Portrait of the True Philosopher, 1831; The Character of the Welsh as a Nation, in the Present Age, 1841 (ac argraffiad Cymraeg ohono); The Causes of Adversity and Prosperity, 1842; The Present State of France, 1848; Patriotism of the Present Age, 1849; Traethawd ar Swyddogaeth Barn a Darfelydd mewn Cyfansoddiadau Rhyddieithol a Barddonol (gyda phryddest ar yr Atgyfodiad), 1853; Pregethau, 1862.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.