JONES, WILLIAM ('Bleddyn'; 1829? - 1903), hynafiaethwr, hanesydd lleol, daearegwr, a chasglwr llên gwerin

Enw: William Jones
Ffugenw: Bleddyn
Dyddiad geni: 1829?
Dyddiad marw: 1903
Rhiant: Catrin Jones (née Williams)
Rhiant: John Jones
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: hynafiaethwr, hanesydd lleol, daearegwr, a chasglwr llên gwerin
Maes gweithgaredd: Hanes a Diwylliant; Llenyddiaeth ac Ysgrifennu; Natur ac Amaethyddiaeth; Gwyddoniaeth a Mathemateg
Awdur: Benjamin George Owens

Ganwyd yn Beddgelert, mab John Jones, clochydd (y cyfeirir ato yn Charles Kingsley, Two Years Ago), a Chatrin Williams, ei wraig. Fe'i prentisiwyd yn ddilledydd yng Nghaernarfon yn 1841, ond ar wahân i ysbaid ym Mhorthmadog ymddengys mai yn Llangollen y treuliodd y rhan fwyaf o'i oes, ac yno y bu farw 30 Ionawr 1903.

Bu'n gyd-fuddugol ag Owen Wynne Jones ('Glasynys') ar draethawd ar 'Hynafiaethau a Chofianau Plwyf Beddgelert' yn eisteddfod Beddgelert yn 1860, ac ar y traethawd hwn ac eraill o'i lawysgrifau y seiliwyd D. E. Jenkins, Bedd Gelert, 1899. Enillodd wobrwyon hefyd am draethodau ar 'Conwy a'i Hamgylchoedd' yn eisteddfod genedlaethol Conwy yn 1861, ac ar 'Hanes Eifionydd' yn eisteddfod Madog yn 1872. Rhoddwyd canmoliaeth uchel iawn hefyd i'w draethawd ar 'Daiareg Sir Gaernarfon' yn eisteddfod genedlaethol Gaernarfon yn 1862; fe'i cyhoeddwyd yn Y Brython, 1862, 75-93, a'i adargraffu yn llyfryn ar wahân o dan y teitl Llawlyfr ar Ddaiareg Sir Gaernarfon, 1863.

Casglodd lawer o ddefnyddiau ei ewythr John Thomas ('Siôn Wyn o Eifion') a gyhoeddwyd yn Gwaith Barddonol Sion Wyn o Eifion , 1861. Cadwyd llythyrau oddi wrtho, traethodau o'i waith ar lên gwerin, a chyfrolau o farddoniaeth, etc., a gasglwyd ganddo, yn NLW MS 568B , NLW MS 666C , NLW MS 668C , NLW MS 670D , NLW MS 671D , NLW MS 673D , NLW MS 4253B , NLW MS 12734E , NLW MS 12735E .

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.