JONES, WILLIAM (1834 - 1895), Abergwaun, gweinidog gyda'r Bedyddwyr

Enw: William Jones
Dyddiad geni: 1834
Dyddiad marw: 1895
Rhiant: John Robert Jones
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: gweinidog gyda'r Bedyddwyr
Maes gweithgaredd: Crefydd
Awdur: Benjamin George Owens

Ganwyd yn y Brymbo 10 Awst 1834, yn fab i J. R. Jones ('Alltud Glyn Maelor') (1800 - 1881) ac yn frawd i'r Parch. J. R. Jones, Pontypridd (1846 - 1908). Ymaelododd yn eglwys Fedyddiedig y Brymbo 4 Rhagfyr 1853, dechreuodd bregethu 25 Tachwedd 1855, a derbyniwyd ef i Goleg Hwlffordd yng Ngorffennaf 1858. Ordeiniwyd ef ym Mhen-y-fron, Sir y Fflint, yn 1860, a symudodd oddi yno i'r Bargoed, 1864; Hermon, Abergwaun, 1869; Heol-y-castell, Llundain, 1883; ac yn ôl drachefn yn niwedd 1884 i Abergwaun, lle y treuliodd weddill ei oes hyd ei farw, 24 Mawrth 1895. Claddwyd ef ym mynwent Hermon. Collasai ei briod y flwyddyn gynt, a gadawodd ddau fab. Bu'n gadeirydd cymanfa Penfro, 1878, a llywydd Undeb y Bedyddwyr, 1894. Yr oedd yn feddyliwr arbennig o graff, ac ystyrid ef, gan wŷr cymwys i farnu, yn bregethwr hynod yn herwydd naws athronyddol ei bregethau. Golygwyd cyfrol o'r pregethau hyn gan T. T. Jones, Caerdydd, dan y teitl Yr Angel Mawr a'r Llyfr Bychan (Llangollen, 1899), a chyhoeddwyd pigion o'i ddywediadau dan y teitl Drychfeddyliau Detholedig (London, 1907). Yr oedd hefyd yn ddarlithydd poblogaidd ar destunau fel ' Prometheus,' ' John Bunyan,' a ' Charles Dickens.'

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.