JONES, JOHN WILLIAM ('Andronicus'; 1842 - 1895), llenor

Enw: John William Jones
Ffugenw: Andronicus
Dyddiad geni: 1842
Dyddiad marw: 1895
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: llenor
Maes gweithgaredd: Llenyddiaeth ac Ysgrifennu
Awdur: Robert Thomas Jenkins

Ganwyd yn y Bala, 30 Mehefin 1842; mab y Gilrhos (Llangywer) oedd ei dad (siopwr), a Saesnes o ymyl Wrecsam oedd ei fam. Aeth i Gaer yn 1859, i weithio mewn siop; symudodd i Fanceinion yn 1863, a daeth yn drafaeliwr masnachol; ond yn 1884 gafaelwyd ynddo gan y cryd cymalau, a bu'n orweiddiog (yng Nghaernarfon) o hynny hyd ddiwedd ei oes. Bu farw 15 Mehefin 1895, a chladdwyd yn Llanbeblig. Yn fuan ar ôl symud i Fanceinion, dechreuodd sgrifennu i'r Faner; yn nes ymlaen sgrifennai i'r Herald ac wedyn i'r Genedl a'r Cymru. Yr oedd yn sgrifennwr difyr dros ben, a chanddo law neilltuol at atgofion ac at ddisgrifiadau chwareus. Cyhoeddodd yn 1894 Adgofion Andronicus , detholiad o'i ysgrifau; a golygodd R.D. Rowland ('Anthropos') eraill ohonynt yn 1895, dan y teitl Yn y Trên , gydag ysgrifau bywgraffyddol y seiliwyd y nodyn hwn arnynt.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.