STINAN (S. Justinian), sant (fl. yn y 6ed ganrif).

Enw: Stinan
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: sant
Maes gweithgaredd: Crefydd; Crefydd
Awdur: Hywel David Emanuel

Unig ffynhonnell traddodiad Stinan Sant yw 'buchedd' fer a grynhowyd gan John o Teignmouth o lawysgrif nad yw mwyach ar gael. Brodor o Lydaw oedd Stinan. Wedi ymadael â'i wlad ar orchymyn angel, glaniodd o'r diwedd ar ynys Limeneia, Ynys Ddewi yn awr, ger glannau Sir Benfro, heb fod ymhell o Dyddewi. Yno y cartrefodd yng nghwmni'r meudwy Honorius a llawer o ddisgyblion a ddaethant i'w hyfforddi ganddo. Wedi clywed canu'i glodydd, danfonodd Dewi Sant amdano i'w wneud yn gyffesydd iddo ef ei hun, a rhoddodd iddo lain o dir ar yr ynys ac ar yr arfordir. Dywedir i Stinan gyflawni llawer o wyrthiau. Yn y diwedd lladdwyd ef gan dri o'i weision, a chodwyd capel ar y fan lle claddwyd ef ym Mhorth Stinan ar yr arfordir. Ymhen ychydig wedi hynny, symudodd Dewi 'r corff i fedd newydd yn ei eglwys ei hun. Y mae eglwys Llanstinan ger Abergwaun wedi ei henwi ar ôl Stinan. Nodir dau ddyddiad fel ei ddydd gŵyl, sef 5 Rhagfyr ac 23 Awst.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.