KADWALADR (CADWALADER), SION, JOHN, SIONYN; baledwr ac anterliwtiwr a gyfansoddai yn nechrau hanner olaf y 18fed ganrif

Enw: Sion Kadwaladr
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: baledwr ac anterliwtiwr
Maes gweithgaredd: Cerddoriaeth; Perfformio; Barddoniaeth
Awdur: Gruffydd Glyn Evans

O blwyf Llanycil, ger y Bala, yr oedd yn ôl 'Ioan Pedr' (NLW MS 2629C ). Disgrifia ei hun (yn ei anterliwt Gaulove, 125) fel 'dynan go brydd heb chwaer na brawd, anystwyth dlawd yn wastad.' Tystiolaethir mewn baled ganddo (Bibliography of Welsh Ballads, No. 73) ac yn ei anterliwt Einion, ac mewn marwnad iddo (yn NLW MS 2629C ) iddo ddioddef ei dransportio i'r America am saith mlynedd. Yn ôl 'Ioan Pedr' ei drosedd ydoedd lladrata hanner coron. Ymddengys mai ar ei ddychweliad y cyfansoddodd ei anterliwtiau. (1) Einion a Gwenllian (NLW MS 552B ); ni raid derbyn yr awgrym mai ar y cyd â Huw Jones o Langwm y'i hysgrifennwyd. Cynigir tua 1756 fel dyddiad cyfansoddi. (2) Gaulove a Clarinda; cyfansoddwyd rhwng 1756 a 1762 (Cwrtmawr MS 39B ). (3) Y Brenin Dafydd a Gwraig Urias; cyfansoddwyd gyda Huw Jones o Langwm ac argraffwyd yng Nghaer tua 1765. Ei nodweddion fel anterliwtiwr yw bywiogrwydd ei olygfeydd a'i ysmaldod miniog. Nid yr un yw â'r John Cadwaladr y ceir dwy faled o'i waith yn Beirdd y Berwyn ('Cyfres y Fil').

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.