KEMBLE, CHARLES (1775 - 1854), chwaraewr drama

Enw: Charles Kemble
Dyddiad geni: 1775
Dyddiad marw: 1854
Priod: Marie-Therese Kemble (née De Camp)
Plentyn: Frances Anne Butler (née Kemble)
Plentyn: Adelaide Sartoris (née Kemble)
Plentyn: John Mitchell Kemble
Rhiant: Sarah Kemble (née Ward)
Rhiant: Roger Kemble
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: chwaraewr drama
Maes gweithgaredd: Perfformio
Awdur: Cecil John Layton Price

Ganwyd 25 Tachwedd 1775 yn Aberhonddu, unfed plentyn ar ddeg Roger Kemble a Sarah Ward. Y mae'r gwahanol leoedd y ganwyd plant enwog y rhieni hyn ynddynt yn fynegai i'r gylchdaith y chwaraeai'r cwmni o actwyr crwydrol ynddi: Sarah Siddons, ganwyd yn Aberhonddu, 1755; JOHN PHILIP, ganwyd yn Prescott, 1757; STEPHEN, ganwyd yn Kington, 1758; FRANCES TWISS, ganwyd yn Henffordd, 1759; ELISABETH (WHITLOCK), ganwyd yn Warrington, 1761; Ann Julia Hatton, ganwyd yn Worcester, 1764. Cyfrifir Sarah (Siddons) a John Philip Kemble ymhlith yr actwyr gorau a fu erioed. Yr oedd Stephen Kemble yn actor galluog; bu'n llywodraethwr yr Edinburgh Theatre Royal. Yr oedd Frances ac Elisabeth yn actwyr cymwys. O'r plant a anwyd yn ddiweddarach bu pump farw pan oeddynt yn ifanc, eithr tyfodd Charles Kemble i ddyfod yn ŵr adnabyddus ym myd y theatr. Fel ei frawd John Philip cafodd Charles ei addysgu yn yr English College yn Douai. Dechreuodd actio yn Sheffield yn 1792, gan ymddangos mewn theatr yn Llundain am y tro cyntaf ar 21 Ebrill 1794 - Malcolm yn Macbeth. Bu'n gwasnaethu Colman hyd 1802, ac o hynny ymlaen yng ngwasanaeth John Philip Kemble yn Covent Garden. Priododd, 2 Gorffennaf 1806, Marie-Therese de Camp, actres adnabyddus. Daeth eu tri phlentyn yn enwog mewn gwahanol gyfeiriadau: JOHN MITCHELL KEMBLE (1807 - 1857), ieithydd, geiryddwr, ac awdur llyfrau hanes; ADELAIDE (SARTORIS) (1814? - 1879), cantores ac awdures; a FRANCES ANNE (BUTLER), actres ac awdur. Dywed A. Nicoll i Kemble fod yn gyfrifol am ysgrifennu neu gyfaddasu chwe drama.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.