KEMEYS a KEMEYS-TYNTE (TEULU), Cefn Mabli, sir Fynwy

Dywedir bod cangen Cefn Mabli o deulu Kemeys yn ddisgynyddion Stephen de Kemeys, perchen tir yn sir Fynwy c. 1234. Cysylltir hwy gyntaf â Chefn Mabli pan briododd DAVID KEMEYS, mab Ievan Kemeys o Began, â Cecil, merch Llewelyn ap Evan ap Llewelyn ap Cynfrig o Gefn Mabli, c. 1450. Dilynwyd hwy gan eu mab LEWIS. Yr etifeddion nesaf oedd JOHN KEMEYS a'i fab DAVID (bu farw 1564?). Bu mab hynaf David, sef EDWARD, yn siryf Morgannwg 1574-5, ond bu farw'n ddiblant. Daeth y stad i nai Edward, sef DAVID mab Rhys Kemeys o gastell Llanvair. Bu David yn siryf Morgannwg, 1616-7. Dilynwyd ef gan ei fab EDWARD, ond ni bu ŵyrion i Edward. Aeth y stad felly i Syr NICHOLAS KEMEYS o Lanvair, marchog, mab i'r Rhys o gastell Llanvair a nodwyd uchod. Bu ef yn siryf Mynwy, 1631-2, a Morgannwg, 1638-9. Bu hefyd yn aelod seneddol dros sir Fynwy, 1628-9. Yn 1642 gwnaed ef yn farwnig. Yr oedd yn Frenhinwr mawr, a chymerodd ran flaenllaw yn y Rhyfel Cartrefol. Bu farw tra'n amddiffyn castell Casgwent, 25 Mai 1648. Ei fab, CHARLES KEMEYS, oedd yr ail farwnig. Buasai ef yn efrydydd yng Ngholeg Iesu, Rhydychen, a gwnaed ef yn farchog yn 1643. Cymerodd yntau ran flaenllaw yn y rhyfel, ac ymladdodd dros y brenin yng nghastell Penfro. Ar gwymp y castell, gorfu iddo dalu dirwy o £3,500, ac alltudiwyd ef am ddwy flynedd. Bu farw 1658. Dilynwyd ef gan ei fab CHARLES KEMEYS, a fuasai'n efrydydd yng Ngholeg Wadham, Rhydychen. Bu ef yn aelod seneddol dros sir Fynwy, 1685-7, 1695-8, a thros fwrdeisdref Mynwy, 1690-5. Ymddengys ei enw fel siryf Morgannwg am y cyfnod 18-24 Mawrth 1689. Bu hefyd yn llywodraethwr castell Caerdydd, 1702. Bu farw Rhagfyr 1702. Dilynwyd ef fel 4ydd barwnig gan ei fab, CHARLES KEMEYS, a aned 23 Tachwedd 1688. Yr oedd ef yn siryf Morgannwg, 1712-3, yn aelod seneddol dros sir Fynwy, 1713-5, a thros sir Forgannwg, 1716-34. Bu farw 29 Ionawr 1735, yn ddiblant; ef oedd y barwnig olaf.

JANE KEMEYS (bu farw 1747)

Chwaer Charles Kemeys, y 4ydd barwnig. Yr oedd wedi priodi Syr John Tynte, barwnig (1683-1710), Halswell, Somerset. Bu iddynt dri mab, HALSWELL (1705-1730), JOHN (1707-1740), a CHARLES (1710-1785), ac un ferch, JANE (1708-1741). Bu farw eu ŵyrion yn ifanc, ac eithrio JANE (1738-1825), merch y Jane a nodwyd uchod a Ruishe Hassell, swyddog yn y fyddin. Daeth y stad iddi hi. Priododd hi, 19 Chwefror 1765, y cyrnol JOHN JOHNSON o Glaiston, sir Rutland, a chymerodd ef yr enw teuluol KEMEYS-TYNTE. Bu farw 1807.

Yn y 19eg. ganrif trosglwyddwyd y stad o dad i fab hynaf yn ddidor, a dyma'r etifeddion:

CHARLES KEMEYS KEMEYS-TYNTE (1778 - 1860), aelod seneddol

Ganwyd 29 Mai 1778; aelod seneddol dros Bridgwater, 1820-37, cyrnol yn y West Somerset Yeomanry. Priododd ef, 25 Ebrill 1798, Anne, merch y Parch. T. Leyson, ficer Bassaleg, sir Fynwy. Bu farw 22 Tachwedd 1860.

CHARLES JOHN KEMEYS-TYNTE (1800 - 1882), aelod seneddol

Ganwyd 1800; cyrnol yn y Royal Glamorgan Light Infantry; aelod seneddol dros orllewin Somerset, 1832-7, a Bridgwater, 1847-65. Priododd (1), 18 Gorffennaf 1820, Elizabeth, merch Thomas Swinnerton o Butterton Hall, sir Stafford; (2), Vincentia, merch W. Brabazon o Rath House, Louth, 15 Ebrill 1841. Bu farw 16 Medi 1882.

CHARLES KEMEYS KEMEYS-TYNTE (1822 - 1891), ustus heddwch a dirprwy-raglaw

Ganwyd 16 Mawrth 1822; ustus heddwch a dirprwy-raglaw dros sir Fynwy a Somerset; cyrnol yn y Somerset Militia. Priododd (1), 2 Tachwedd 1848, Mary, merch George Frome o Puncknoll, Dorset; (2) 1873, Hannah Lewis; a (3) 1879, Elizabeth, merch Richard Fothergill, aelod seneddol, Dinbych-y-Pysgod. Bu farw 10 Ionawr 1891.

HALSWELL MILBORNE KEMEYS-TYNTE (1852 - 1899), ustus heddwch a dirprwy-raglaw

Ganwyd 1852; ustus heddwch a dirprwy-raglaw dros sir Fynwy, ustus heddwch dros Sir Forgannwg a Somerset. Priododd, 25 Medi 1875, Rosabelle, merch Theobald Walsh o Kildare. Bu farw 18 Chwefror 1899.

CHARLES THEODORE HALSWELL KEMEYS-TYNTE (1876 - 1934), ustus heddwch

Ganwyd 18 Medi 1876. Bu'n ustus heddwch dros sir Fynwy a Somerset. Priododd, 10 Awst 1899, Dorothy, merch y cadfridog Syr Arthur E. A. Ellis. Buasai cysylltiad rhwng cangen o'r teulu a barwniaeth Wharton, ac yn Chwefror 1916 gwnaed Charles Kemeys-Tynte yn 8fed farwn Wharton. Bu farw 4 Mawrth 1934.

Awdur

Ffynonellau

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.