Athro Emeritus Arthur Herbert Dodd, M.A., (1891-1975), Bangor
Addysgwyd Llewelyn Kenrick (anaml y defnyddiai ei enw cyntaf) yn ysgol ramadeg Rhiwabon. Daeth yn gyfreithiwr yn Rhiwabon, yn glerc i ustusiaid heddwch mainc Rhiwabon, 1896-1933, a bu'n grwner adran ddwyreiniol sir Ddinbych o 1906 hyd ei f. Pan oedd yn ddyn ieuanc yr oedd yn flaenllaw ymysg y rhai a chwaraeai bêl droed. Efe a ffurfiodd y ‘Football Association of Wales’ yn nhymor 1875-6; cyfeiriodd Syr Evan Morris at hyn pan roddwyd y cwpan Cymreig cyntaf (‘the first Welsh cup’) i'r enillwyr yn 1879. Enillasid y cwpan ddwy flynedd yn gynt, ond y pryd hwnnw nid oedd cwpan i'w gael gan y ‘Football Association of Wales’ ieuanc. Kenrick a drefnodd yr ornest ryng-genedlaethol gyntaf rhwng Cymru a'r Alban. Yn Glasgow, ar 25 Mawrth 1876, y bu'r chwarae, ac yr oedd Kenrick yn chwarae ‘fullback’ dros Gymru yn yr ornest honno; bu'n chwarae dros Gymru bedair gwaith wedi hynny. Yr oedd yn aelod o'r tîm cyntaf a orfu ar Loegr yn Blackburn, 1881. Bu'n chwarae dros y Shropshire Wanderers ac yn gapten tîm enwog y Druids. Efe oedd llywydd cyntaf, ac ysgrifennydd mygedol, y ‘Football Association of Wales,’ a bu'n aelod o gyngor yr Association am gyfnod hir. Priododd ferch y Parch. A. L. Taylor, prifathro ysgol ramadeg Rhiwabon; ni bu plant o'r briodas. Bu f. 29 Mai 1933 a chladdwyd ef yn Rhiwabon.
George Geoffrey Lerry, Wrecsam