Y Bywgraffiadur Cymreig



A  B  C  D  E  F  G  H  I  J  K  L  M  N  O  P  Q  R  S  T  U  V  W  X  Y  Z



KENWARD, JAMES (‘Elfynydd ’) (fl. 1868), awdur a bardd a oedd yn byw yn Smethwick, ger Birmingham, yn 1868. Cynnwys ei weithiau cyhoeddedig gerdd Saesneg a gyfansoddwyd ar gyfer eisteddfod genedlaethol Llangollen yn 1858, sef A Poem of English Sympathy with Wales; casgliad a elwir For Cambria: themes in Verse and Prose; a bywgraffiad John Williams (‘ab Ithel’) [q.v.] a gyhoeddwyd gyntaf yn y Cambrian Journal.

Llyfryddiaeth:

  • James Kenward, A Poem of English Sympathy with Wales, 1858;
  • id., For Cambria: Themes in Verse and Prose, 1834-68, 1868;
  • id., Ab Ithel ‘Ab Ithel,’ 1871;
  • Cambrian Jnl., 1862, 1863, 1864;
  • Blackwell.

Awdur:

Miss Ray Looker, (Mrs Ray Morgan), Caerdydd / Rhymni