Mab hynaf Thomas a Catherine Kenyon oedd LLOYD KENYON I (1696-?); g. 17 Mawrth 1696, cafodd ei addysg yng Ngholeg Sant Ioan, Caergrawnt, a phriododd, ym mis Tachwedd 1730, Jane, merch a chyd-aeres Robert Eddowes, Eagle Hall, sir Gaer, ac Anne, merch ac aeres y Parch. Richard Hilton (bu f. 1706), Gredington, ficer Hanmer, 1662-1706. Prynodd Hilton Gredington gan Syr John Hanmer ar 9 Mai 1678, ac ymddengys i deulu Kenyon symud yno yn gynnar wedi i'r ficer f. yn 1706. Ganed LLOYD KENYON II, ail fab Lloyd Kenyon I, yn Gredington ar 5 Hydref 1732. Cafodd ei addysg yn ysgol Rhuthyn, ac fe'i rhwymwyd (1749) i ddysgu'r gyfraith gyda rhyw Tomkinson, cyfreithiwr yn Nantwich (Caerlleon). Ar 7 Tachwedd 1750 cafodd ei dderbyn gan y Middle Temple, eithr parhaodd ei gysylltiad â Tomkinson hyd nes yr aeth i Lundain yn 1755. Ar ôl dyfod yn fargyfreithiwr (7 Chwefror 1756), bu'n dibynnu gan mwyaf ar flwydd-dâl o £80 a gâi gan ei dad ac ar hynny o waith a gâi gan Tomkinson a chymdogion caredig eraill, hyd y daeth i adnabod Edward Thurlow, a wnaethpwyd yn arglwydd ganghellor ychydig yn ddiweddarach; yr oedd Thurlow yn falch o gael help ‘gwas’ a oedd mor drylwyr ac mor barod i ymboeni ag yr oedd Kenyon. Yn fuan wedi hynny daeth Kenyon i gael enw da fel bargyfreithiwr, ac ar gymhelliad Thurlow fe'i gwnaethpwyd yn ‘King's Counsel’ (30 Mehefin 1780). Cymerodd y llw fel prif farnwr Caer, Fflint, Dinbych, a Threfaldwyn ar 4 Awst; ar 13 Tachwedd fe'i galwyd i fainc y Middle Temple. Ym mis Medi yr un flwyddyn etholwyd ef yn aelod seneddol dros Hindon, Wiltshire, a pharhaodd i gynrychioli'r etholaeth honno hyd 1784 pryd y daeth yn aelod dros Tregony a gynrychiolodd hyd nes y'i dyrchafwyd i fod yn farwn. Ym mis Mawrth 1782 dewiswyd ef yn ‘Attorney General,’ swydd a lanwodd bron yn ddiball hyd nes y daeth yn ‘Master of the Rolls’ ar 30 Mawrth 1784. Gwnaethpwyd ef yn aelod o'r Cyfrin Gyngor ar 12 Ebrill ac yn farwnig ar 28 Gorffennaf 1784. Dilynodd yr arglwydd Mansfield fel prif farnwr Llys Mainc y Brenin ar 4 Mehefin 1788, a gwnaethpwyd ef yn farwn ar y nawfed dydd o'r un mis; ei deitl oedd ‘Lord Kenyon, Baron of Gredington, co. Flint.’
Yn ystod ei yrfa hir fel bargyfreithiwr bu â fynnai'r arglwydd Kenyon 1af â llawer o dreialon neu achosion diddorol-bu'n arwain y bargyfreithwyr a fu'n amddiffyn Lord George Gordon yn 1780, fel barnwr efe oedd llywydd y llys pan wŷsiwyd Stockdale am athrod yn 1789, a bu am gyfnod yn llywydd y llys a fu'n barnu Warren Hastings.
Yr oedd yn arglwydd-raglaw sir y Fflint, 1796-8, ac yn ‘Custos Rotulorum’ y sir o 1796 hyd ei f. Priododd, 16 Hydref 1773, yn Deane, sir Lancaster, ei gyfnither Mary, trydedd merch George Kenyon, Peel, a'i wraig Peregrina, merch ieuengaf a chyd-aeres Robert Eddowes (gw. uchod); bu iddynt dri mab — LLOYD (1775-1800), GEORGE (1776-1855), a THOMAS (1780-1851). Bu f. ar 4 Ebrill 1802 yn Bath, a dilynwyd ef gan ei ail fab GEORGE (1776-1855), ail arglwydd Kenyon.