KILVERT, ROBERT FRANCIS (1840 - 1879), clerigwr a dyddiadurwr

Enw: Robert Francis Kilvert
Dyddiad geni: 1840
Dyddiad marw: 1879
Rhiant: Robert Kilvert
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: clerigwr a dyddiadurwr
Maes gweithgaredd: Crefydd; Llenyddiaeth ac Ysgrifennu
Awdur: Robert Thomas Jenkins

Ganwyd 3 Rhagfyr 1840 yn Hardenbuish gerllaw Chippenham, lle yr oedd ei dad (Robert) yn offeiriad. Graddiodd yng Ngholeg Wadham, Rhydychen, yn 1862 (M.A. 1866). Wedi bod yn gurad i'w dad, aeth yn gurad Cleiro (sir Faesyfed) yn 1864, a bu yno hyd 1876. Yn 1876 cafodd fywoliaeth Llanarmon (S. Harmon's) yn yr un sir, ond yn 1877 cafodd fywoliaeth Bredwardine yn sir Henffordd; yno y bu farw 23 Medi 1879.

Clod mwyaf Kilvert ydyw'r dyddiadur y cychwynnodd ei sgrifennu yn Ionawr 1870, gan ddal ymlaen arno hyd Fawrth 1879. Aeth darnau ohono (Mehefin 1876-Rhagfyr 1877) ar goll, ond cyhoeddwyd detholion helaeth o'r gweddill gan William Plomer, yn dair cyfrol (1938-40). Y mae ei ddisgrifiadau o natur, ac o'r bywyd cymdeithasol, ar lannau Gwy, yn ddiddorol a gwerthfawr dros ben.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.