Gan Rice Merrick [q.v.] yr achwynwyd gyntaf oll (1578) fod Kitchin yn ysbeilio'r esgobaeth; dywedai Merrick ei fod yn peri colli arian i'r esgobaeth ym mater prydlesoedd. Aeth yr esgob Godwin gam ymhellach (1603), gan ei gondemnio am werthu ffermydd yr esgobaeth a rhoi prydlesoedd ar eraill am ‘extremely small payments.’ Adroddir iddo fynd ag un brydles i Lundain a'i cholli. Ymddengys mai diffyg cynneddf dyn busnes yn hytrach na gwanc am elw oedd ei wendid. Amgylchynid ef gan wŷr ag ynddynt wanc am dir, ac nid oedd ei swyddogion, hwythau, yn ddifai; dylid cofio hefyd mai lleygwyr oedd y comisiynwyr a fu'n peri difodi'r siantrïau (1548) ac eiddo eglwysig (1552-3), ac iddynt hwythau, felly, ysbeilio'r esgobaeth. Gan iddo fedru anfon i'r archesgob Parker ar fyr rybudd (mewn llai na thair wythnos) adroddiad ynglŷn â'r plwyfi a'r offeiriad, y mae'n rhaid credu ei fod yn weinyddwr da a'i fod yn bur gyfarwydd a'i esgobaeth; dengys yr adroddiadau a wnaeth i Parker yn 1561 a 1563 fod gwellhad yn yr esgobaeth a chynnydd yn nifer yr offeiriaid plwyfol, a bod mwy o'r clerigwyr a oedd yn byw allan o'u plwyfi yn cyflogi curadiaid, Bu f. 31 Hydref 1563 ym Mathern ac yno y claddwyd ef.
Yr Archddiacon Lawrence Thomas, D.D., (1889-1960), Aberafan