Y Bywgraffiadur Cymreig



A  B  C  D  E  F  G  H  I  J  K  L  M  N  O  P  Q  R  S  T  U  V  W  X  Y  Z



KNIGHT, WILLIAM BRUCE (1785-1845), clerigwr, gweinydd, ac ysgolhaig Cymraeg; g. 24 Rhagfyr 1785 yn Braunton, Dyfnaint, ail fab John Knight a Margaret, merch William Bruce, Duffryn, Aberdâr. (Ar ochr ei fam yr oedd yn ŵyr i William Bruce, Llanbleddian, a Jane, ŵyres Syr Thomas Lewis, Llanishen.) Pan oedd y mab yn ieuanc symudodd ei rieni i Lanbleddian ac addysgwyd ef yn ysgol ramadeg y Bont-faen cyn iddo fynd i ysgol Sherborne ac wedyn i Goleg Exeter, Rhydychen (ymaelodi 5 Mai 1803, B.A. 1807, M.A. 1811). Bu'n gurad Llanishen, ac am ddwy flynedd yn gurad i Dr. Lisle, ficer S. Ffagan, gan wasnaethu capel Llanilltern yn y plwyf hwnnw. Yn ystod y cyfnod hwn bu'n astudio Cymraeg a Hebraeg.Yn 1815 rhoddwyd bywoliaeth Llantrithyd iddo gan Syr John Aubrey. Ddwy flynedd yn ddiweddarach rhoes ymddiriedolwyr C. R. M. Talbot fywoliaeth Margam iddo ynghyd â rheithoraeth Llandough-juxta-Cowbridge a S. Mary's Church, Gyda chymorth curad bu'n gwasnaethu y rhai hyn o 1817 hyd 1843, gan fyw yn yr hen ficerdy, Tynycaeau. Priododd Maria Elinor Traherne, S. Hilary.

Yn 1843 symudodd i Landaf i fod yn archddiacon Morgannwg, a dyfod yn ddeon Llandaf yr un flwyddyn. Bu f. ar 8 Awst 1845 a chladdwyd ef o flaen yr allor yn y ‘lady chapel’ yn eglwys gadeiriol Llandaf.

Y mae i Knight bwysigrwydd fel ysgolhaig, Eglwyswr, a gweinydd. Yn y ddadl ynglŷn ag orgraff yr iaith Gymraeg a fu yn nechrau'r 19eg g., yr oedd Knight ar ochr traddodiad ac felly'n gwrthwynebu John Jones (‘Tegid’) [q.v.] a fynnai fabwysiadu dull newydd. Cyhoeddodd Remarks Historical and Philological on the Welsh Language a A Critical Review of John Jones' Reply. Iddo ef y rhoddir ‘the chief credit of saving the Welsh Bible from the vandalism of Pughe's followers.’ Y mae iddo'r clod hefyd (gyda thri chaplan arholi y tair esgobaeth arall) am fersiwn ddiwygiedig y Llyfr Gweddi Gyffredin, 1841.

Knight ydoedd clerigwr pennaf esgobaeth Llandaf mewn cyfnod pan na cheid esgobion trigiannol neu a oedd yn gwbl drigiannol. Cafodd ei ddewis, gan wahanol esgobion, yn ganon arholi, yn ganghellor yr esgobaeth a'r eglwys gadeiriol, a phan adnewyddwyd swydd deon gan y Senedd (3 a 4 Victoria) ef a ddaeth yn ddeon cyntaf Llandaf ar ôl i'r lle fod yn wag am saith canrif.

Yr oedd yn ddylanwadol hefyd fel gweinyddwr. Yn rhinwedd ei swydd fel caplan arholi yr oedd yn gyfrifol am ddewis a threfnu i addysgu ac arholi ymgeiswyr am urddau eglwysig; yn y cyfnod hwn, pan nad oedd esgobion trigiannol, ordeinid ymgeiswyr Llandaf mewn esgobaethau eraill dan gennad (‘Letters Dimissory’). Yr oedd gofal yr esgobaeth yn gyffredinol arno; ymwelai fel archddiacon yn rheolaidd, a thrwy hynny yr oedd yn gyfrifol i raddau helaeth am bolisi'r esgobaeth. Cafodd yr esgob Coplestone ef yn gymorth gwerthfawr iddo. Yr oedd yn weithgar gyda llu o gymdeithasau — y S.P.C.K., y ‘Church Enlargement Society,’ y ‘Widows and Orphans' Society,’ etc. Cymerai ddiddordeb mawr mewn addysg ac eisteddfodau. Yr oedd ei gartref yn fath o dŷ busnes lle y gellid cael llyfrau a thraethodau eglwysig, y Llyfr Gweddi Gyffredin, etc. Yr oedd ei ddiddordeb yn ddwfn mewn adeiladu eglwysi; ef ei hunan a drefnodd i adeiladu eglwys Holy Cross, Margam, yn 1827. Pan ddaeth yn ddeon Llandaf atgyweiriodd y Lady Chapel a chasglodd £20,000 ar gyfer gwneuthur ychwaneg o waith atgyweirio.

Llyfryddiaeth:

  • A. O. Evans, A Chapter in the History of the Welsh Book of Common Prayer, 1922;
  • Foster, Alumni Oxon.;
  • Exeter College Register;
  • The Ecclesiastical Gazette;
  • A. Ollivant, Some Account of Llandaff Cathedral;
  • Llandaff MSS.;
  • Memoirs of Dean Conybeare;
  • letters of Bp. Coplestone to W.B.K. (Llandaff MSS).

Awdur:

Yr Archddiacon Lawrence Thomas, D.D., (1889-1960), Aberafan

Atodiadau a chywiriadau:

KNIGHT, WILLIAM BRUCE (Bywg., 504) Yn y 5ed llinell ar ôl ‘Aberdar’ ychwaneger ‘a brawd i John Bruce Pryce’ (gw. o dan Bruce, Henry Austin (Bywg., 49).