Y Bywgraffiadur Cymreig



A  B  C  D  E  F  G  H  I  J  K  L  M  N  O  P  Q  R  S  T  U  V  W  X  Y  Z



KNIGHT, HENRY HEY (1795-1857), clerigwr a hynafiaethydd; g. yn Tewkesbury (bedyddiwyd ef yno 22 Hydref 1795), yn drydydd mab i Robert Knight (1764-1819), ficer Tewkesbury (gyda Bayton, Worcs.) o 1792 hyd 1818; yr oedd ei fam, Harriett Mercy Knight (1769?-1846) yn ŵyres i'r diwinydd Ymneilltuol enwog Philip Dodderidge; cafodd Robert Knight o leiaf bedwar mab a phedair merch o'i ddwy briodas, a H. H. Knight oedd y mab cyntaf o'r ail. O Fryste yr hanoedd tylwyth Knight o Landidwg; trwy briodas yn 1708 yr etifeddodd glwm o faenorydd o gwmpas Trenewydd Notais ym Morgannwg (Sger,Llandidwg, Notais, ac eraill), a berthynai cyn hynny i deulu Lougher. Bu farw ficer Tewkesbury o flaen ei frawd a oedd yn ben y teulu, ond etifeddwyd y tiroedd yn ei le gan ei fab, yntau'n Robert ac yntau'n glerigwr (bu'n rheithor Trenewydd Notais, 1818-54), yn 1825 — gwerthodd ef lawer o'r tiroedd wedyn, ond deil ei ddisgynyddion i fyw yng Nghwrt Llandidwg.

Bu H. H. Knight yng ngholegau Merton ac Exeter yn Rhydychen, graddiodd yn y dosbarth blaenaf yn y clasuron yn 1817, a bu'n gymrawd o Goleg y Frenhines o 1820 hyd 1827. Ar y dydd olaf yn 1826, sefydlwyd ef yn rheithor Castell Nedd, a gwasnaethodd yn ddiwyd yno hyd Ragfyr 1854, pryd yr olynodd ei hanner-brawd hŷn nag ef ym mywoliaeth (deuluol, i bob pwrpas) Trenewydd Notais. O hynny allan, Cwrt Notais oedd ei breswyl wastadol — eisoes er tua 1830 edrychai ar y tŷ hwnnw fel ei gartref — ac yno y bu farw'n ddibriod ar 30 Medi 1857. Aeth y fywoliaeth wedyn i'r pedwerydd o'r brodyr, EDWARD DODDRIDGE KNIGHT (1806?-1873), a breswyliai yntau yng Nghwrt Notais sydd eto yn nwylo disgynyddion ei ferch. Daeth chwaer (hynaf) y tri brawd, ANNE BASSETT KNIGHT (1794-1825), yn wraig i'r Parch. John Blackmore, ac felly'n fam i'r nofelydd Richard Doddridge Blackmore. Bwriai hwnnw yn ei ieuenctid lawer o'i amser yng Nghwrt Notais gyda'i ewythr H. H. Knight; darluniodd ef yn un o'i nofelau, a chafodd lawer o arian ar ei ôl. Yng Nghwrt Notais y dechreuodd Blackmore sgrifennu The Maid of Sker, ac â'r gymdogaeth honno y mae a fynno llawer o'r stori.

Fel hynafiaethydd yr haedda H. H. Knight ei gofio. Yr oedd yn un o aelodau cyntaf a mwyaf gweithgar Cymdeithas Hynafiaethau Cymru, ac yn awdur amryw draethodau hynafiaethol (rhestr yn Phillips, Hist. of the Vale of Neath, 115); y pwysicaf o'r rhain yw'r papur gwerthfawr, ‘An Account of Newton Nottage’ (Arch. Camb., 1853, 90-8, 161-80, 229-62), sy'n adrodd hanes Llandidwg a thiroedd eraill y Twrbiliaid, y Lougheriaid, a'r Knights.

Llyfryddiaeth:

  • Cofnodion plwyfol Tewkesbury a Threnewydd Notais;
  • Foster, Alumni Oxon.;
  • Thomas Nicholas, Hist. Glam.;
  • D.N.B., atodiad cyntaf, dan ‘Blackmore, R.D.’;
  • Y Llenor, Hydref 1949;
  • gwybodaeth gan Mr. Henry Knight o Gwrt Llandidwg.

Awdur:

Yr Athro Emeritus Robert Thomas Jenkins, C.B.E., D.Litt., Ll.D., F.S.A., (1881-1969), Bangor.