KYFFIN, EDWARD (c. 1558 - 1603), clerigwr a mydryddwr salmau

Enw: Edward Kyffin
Dyddiad geni: c. 1558
Dyddiad marw: 1603
Rhiant: Catrin Kyffin (née Lloyd)
Rhiant: Thomas Kyffin
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: clerigwr a mydryddwr salmau
Maes gweithgaredd: Crefydd; Barddoniaeth
Awdur: Gildas Tibbott

Credir mai ef oedd 'my brother Edward Kyffyn preacher' a enwir yn ewyllys Maurice Kyffin ac a'i profodd; os felly, yr oedd yn fab Thomas Kyffin o Groesoswallt a Chatrin, merch ieuengaf Robert Lloyd o Blas Hersedd, Sir y Fflint. Prin iawn yw'r wybodaeth am ei yrfa. Ganed ef yng Nghroesoswallt. Aeth i Goleg Iesu, Caergrawnt, ond nid ymddengys iddo gymryd gradd. Ordeiniwyd ef yn ddiacon yn Llundain, 14 Mai 1585, yn 27 oed, ac yn offeiriad ym Mangor, 28 Rhagfyr 1590; cofnodir hefyd ei enw fel un o'r tystion mewn gwasanaeth ordeinio yng nghapel yr esgob ym Mangor, 26 Medi 1593. Bu'n gurad S. Martin Outwich, Llundain, a diau mai yno yr oedd pan fu farw o'r pla mawr yn 1603.

Kyffin oedd awdur Rhann o Psalmae Dafydd Brophwyd Ivv Canu ar ôl y dôn arferedig yn Eglwys Loegr ('Simon Stafford a'i printiodd yn Llunden dros T[homas] S[alisbury] 1603'). Y mae'n amheus a gyhoeddwyd y llyfryn hwn o gwbl; dim ond copi Ll.G.C. sydd ar gael, hyd y gwyddys. Ni chynnwys ond y 12 salm cyntaf a'r pum adnod cyntaf o'r drydedd ar ddeg wedi eu gosod ar fesur awdl gywydd, ochr yn ochr â'r testun Beiblaidd ac yn dilyn llythyr cyflwyniad Kyffin yn rhoddi'r rhesymau a'i symbylodd i ymgymryd â'r gwaith. Yn wyneb yr hyn a ddywaid Maurice Kyffin, yn ei ragymadrodd i Deffynniad Ffydd Eglwys Loegr, 1595, am yr angen am fydryddu'r salmau Cymraeg nid yw'n annhebyg mai ar ei anogaeth ef yr ymgymerodd ei frawd Edward â'r gorchwyl. Dywaid Thomas Salisbury, mewn llythyr at Syr John Wynn o Wydir, fod Kyffin, ar ôl mydryddu tua 50 o'r salmau, wedi syrthio'n ysglyfaeth i'r pla yn 1603. Hynny, yn ddiau, sy'n cyfrif paham nad argraffwyd mwy ohonynt.

Mewn un yn unig o'r tair ffurf sydd ar dudalennau rhagarweiniol Psalmae y Brenhinol Brophvvyd Dafydh, gan Wiliam Middelton, 1603, ceir, ar dd. 3-4, 'Mawl-gerdh farwnad i Gapten William Middelton' gan Kyffin. Nid oes sicrwydd ai efe ynteu gŵr arall o'r un enw, a raddiodd yn Rhydychen ac a fu'n ficer Whitford a Chaerwys yn nechrau'r 17eg ganrif, yw'r Edward Kyffin a enwir fel awdur 'The pronunciation of the Letters in the British tongue' ynghyd ag 'A comparison of the pronunciation of the letters in Welsh, to the Greeke and Hebrew Letters' a geir ar ddechrau Car–wr y Cymru , 1631.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.