KYFFIN, MORRIS (c.1555-1598), llenor a milwr;
mab Tomos Kyffin a'i wraig, Catrin iengaf, ill dau'n hanfod o deuluoedd o uchelwyr o gyffiniau Croesoswallt, oedd Morris Kyffin mwy na thebyg. Ni wyddys ymhle y cafodd ei addysgu, ag eithrio iddo fod yn ddisgybl barddol i Wiliam Llŷn, a'i fod wedyn yn Llundain, 1578-80, yn un o ddisgyblion a charedigion yr enwog John Dee [q.v.]. Bu yn athro ar feibion yr arglwydd Buckhurst, tua 1580-2. Bu'n barddoni cryn dipyn yn Gymraeg ac yn Saesneg, ac yn 1587 cyhoeddodd The Blessednes of Brytaine, cân o fawl i'r frenhines Elisabeth. Y mae llawer o'i ganeuon Cymraeg ar gael yn y llawysgrifau o hyd. Yn 1588 cyhoeddwyd ei gyfieithiad Saesneg o Andria, un o gomedïau Terens. Yn 1588, hefyd, penodwyd ef yn ‘Surveyor of the Muster Rolls’ ym myddin Lloegr yn yr Iseldiroedd, ac yn 1591 yn is-drysorydd y lluoedd yn Normandi. Dychwelodd i Lundain i orffen, ac i gyhoeddi, yn 1594, ei gampwaith llenyddol, Deffynniad Ffydd Eglwys Loegr, cyfieithiad o Apologia yr esgob Jewel dros ffydd Eglwys Loegr, a gyhoeddwyd gyntaf yn 1562. Y mae'r Deffynniad yn un o glasuron rhyddiaith Gymraeg, ac yn hynod am rymuster a rhwyddineb ei iaith. Tymhestlog i Kyffin oedd y cyfnod o 1596 hyd ei farwolaeth, ac yntau'n swyddog milwrol, ‘Comptroller of the Musters’ yn Iwerddon. Ei waith yno oedd gwylio swyddogion diegwyddor a fynnai dwyllo'r Llywodraeth a gormesu'r trigolion. Hyd y gellir barnu, bu Kyffin yn onest a chydwybodol, a thrwy hynny enynnodd lid eraill llai dilwgr nag ef, ac yn enwedig ei gyd-swyddog Syr Ralph Lane. Bu f. 2 Ionawr 1598, a chladdwyd ef yn Eglwys Crist, Dulyn.
Llyfryddiaeth:
- W. P. Williams (gol.), Deffynniad Ffydd Eglwys Loegr;
- W. J. Gruffydd, Llên Cymru, 86-97;
- T. Parry, H. Llen. Gymr., pen. viii.
Awdur:
Syr Glanmor Williams, M.A., Abertawe