Y Bywgraffiadur Cymreig



A  B  C  D  E  F  G  H  I  J  K  L  M  N  O  P  Q  R  S  T  U  V  W  X  Y  Z



LACY, De , arglwyddiaid Ewias , Weobley , a Llwydlo . Hanoedd WALTER, yr arglwydd 1af (bu f. 1085), o Lassy, Normandi, a rhestrir ef ymhlith arloeswyr sefydliad y Normaniaid yn rhannau isaf goror Cymru. Wedi i'w stadau Cymreig gael eu dal, yn olynol, gan ei feibion, ROGER (fe'u cymerwyd oddi arno ef yn 1094 oblegid iddo wrthryfela) a HUGH I (a fu f. yn 1121 heb aer uniongyrchol), daethant, maes o law, i feddiant ei ŵyr, GILBERT (fl. 1150), tad HUGH II (bu f. 1186), a oedd yn un o filwyr y groes ac yn un o'r gwŷr pennaf ym mlynyddoedd cyntaf concwest Iwerddon. Bu i dri mab Hugh IIWALTER, HUGH, a WILLIAM — gyswllt agos â Chymru serch mai ynglŷn â hanes perthynas Lloegr ac Iwerddon y ceir eu henwau fynychaf.

Daeth y stadau Cymreig i feddiant WALTER (bu f. 1241), mab hynaf Hugh II a Rose ‘of Monmouth’. Yn ystod yr ymgyrch i Iwerddon yn 1210 bu raid iddo ddioddef dial arno gan y brenin John oblegid bod a fynnai ef yr adeg honno â helyntion Llywelyn a William de Breos, eithr yn ddiweddarach fe'i ceir yn gadarn o blaid y Goron. Yr oedd yn un o arglwyddi'r Mars a bleidiodd y brenin yn argyfwng 1215 ac a bleidiodd Harri III adeg gwrthryfel Marshal yn 1233. Ni fu HUGH, iarll 1af Ulster, mor gymodlon â'i frawd Walter. Gorfu iddo ef dreulio llawer blwyddyn yn alltud, ac efallai iddo fod am gyfnod byr yn ffoadur yng Nghymru. Mab Hugh II o ferch i Roderick O'Connor oedd WILLIAM (bu f. 1233). Priododd ef Gwenllian, merch i Lywelyn I — hithau, fel ei brawd Gruffydd, yn ffrwyth uniad anghyfreithlon a wnaethai Llywelyn cyn iddo briodi Joan, merch y brenin John. Yn ystod ei gweddwdod hir — bu f. yn 1281 — efallai iddi fyw yn Llys Gwenllian ar faenor brenhinol Ystrad Owain yng Nghimeirch, cwmwd yn sir Ddinbych, a derbyn ei chynhaliaeth o diroedd yn y gymdogaeth honno a roddwyd iddi gan ei thad ac o'i thiroedd gwaddol yn Iwerddon.

Pan ddarfu am y llinell wrywol, aeth eiddo teulu De Lacy yn y goror i berthyn, yn y 14eg g., trwy briodas, i deulu Mortimer, ieirll March. Bu aelodau o'r teulu yn noddwyr hael i abatai Llanthony a S. Peter's, Caerloyw.

Llyfryddiaeth:

  • Hist. W.;
  • D.N.B.;
  • Ancient Correspondence;
  • Arch. Camb., 1919, 292 et seq.

Awdur:

Yr Athro Thomas Jones Pierce, M.A., F.S.A., (1905-1964), Aberystwyth