Y Bywgraffiadur Cymreig



A  B  C  D  E  F  G  H  I  J  K  L  M  N  O  P  Q  R  S  T  U  V  W  X  Y  Z



LACY, De (TEULU), Halton , cwnstabliaid Caer. Yr oeddent yn disgyn o Ilbert, a oedd yn gydymaith i Wiliam y Concwerwr ac yn gâr agos i Walter de Lacy (bu f. 1085), o Ewias (gw. uchod). Daeth y teulu yn bobl o bwys mewn materion Cymreig yn oes ROGER (bu f. 1212). Gelwid ef yn Roger o Uffern (‘of Hell’) oherwydd ffyrnigrwydd ei gyrchoedd ar Gymru; dywedir iddo ar un amgylchiad achub Ranulf, iarll Caer o gastell Rhuddlan pan warchaeidar yr iarll gan y Cymry. Daeth ei fab JOHN (bu f. 1240) yn iarll Lincoln 1af o deulu De Lacy trwy briodas. Ychwanegodd HENRY, ŵyr hwnnw, sef y 3ydd iarll Lincoln, iarllaeth Salisbury at deitlau'r teulu trwy ei briodas gyntaf â Margaret Longespée.

Yr Henry de Lacy hwn, 3ydd iarll Lincoln (bu f. 1311), oedd yr aelod mwyaf pwerus a dylanwadol o'r teulu — mewn materion ynglŷn â Lloegr a materion Cymreig. Yr oedd yn un o gynghorwyr mwyaf agos Edward I. Chwaraeodd ran flaenllaw yng nghyrchoedd Cymreig y brenin yn 1277, 1282, a 1294; yn 1282 rhoddodd y brenin Ros, Rhufoniog, a Dinmael iddo — y tiroedd hyn o hyn ymlaen yn ffurfio arglwyddiaeth Mars Dinbych. Efe a sefydlodd fwrdeisdref Dinbych gyda'i gwarchodlu ac a fu'n gyfrifol am adeiladu'r castell a muriau'r dref. Boddwyd EDMUND, un o'i feibion, mewn ffynnon y tu mewn i Dŵr Coch y castell. Gan i'w fab arall, JOHN, farw o flaen ei dad, dilynwyd Henry de Lacy gan ei ferch, ALICE, gwraig Thomas, iarll Lancaster, serch pennu gwaddol i'w ail wraig, Cymraes o'r enw Joan, chwaer William (Martin), 6ed barwn Cemais, Dyfed. Bu a fynnai Alice â chwymp ei gŵr, ac wedi iddo gael ei ddienyddio, ym mis Mawrth 1322, traddododd hi i'r brenin ei holl hawliau i diroedd yng Nghymru.

Llyfryddiaeth:

  • G.E.C. (Comp. Peerage);
  • D.N.B.;
  • Littere Wallie;
  • Ancient Correspondence;
  • P. Vinogradoff and F. Morgan, Survey of Denbigh.

Awdur:

Yr Athro Thomas Jones Pierce, M.A., F.S.A., (1905-1964), Aberystwyth